Crug crwn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
lluos
Llinell 1:
Gair [[Celt]]aidd am bentwr o bridd wedi'i osod gan bobl [[Oes y Cerrig]] fel rhan o'u seremoniau neu i gladdu'r meirw ydy '''crug crwn''' (enw gwrywaidd; Saesneg: ''round barrow''). "Cruc" ydy'r gair yn yr Hen Gernyweg a'r Hen Lydaweg a "Cruach" yn yr Hen Wyddeleg. Mae'r gair i'w gael o fewn rhai geiriau [[Lladin]] megis "Pennocrucium" sef Penkridge heddiw. Y lluosog ydy: '''crugiau crwn''' neu '''crugiau crynion'''.
 
Pan fo siambr neu gell o fewn y crug i ddal y corff yna gelwir y crug yn [[siambr gladdu]]. Pan fo'r glaw a'r gwynt wedi'i herydu yna caiff ei disgrifio fel [[carnedd]]. Sgwennwyd yn [[Llyfr Gwyn Rhydderch]] y Mabinogi, yn y 13eg ganrif am Pwyll yn gweld Rhiannon, "Ac yna... yn eistedd ar ben crug, y wreic teccaf or a welsei eiroet." <ref>Geiriadur Prifysgol Cymru; cyfrol 1; tudalen 613</ref>