Cymry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Hunaniaeth: nodyn prif
Tagiau: Golygiad cod 2017
symud cynnwys i'r erthygl Grwpiau ethnig yng Nghymru
Llinell 66:
[[Delwedd:Pared Dewi Sant St David's Day Parade Aberystwyth Ceredigion Cymru Wales 2017 40.jpg|bawd|Y Ddraig Goch, croes Dewi Sant, a baner Llywelyn ap Gruffudd uwch pennau’r dorf ym [[Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth|Mharêd Dewi Sant]] yn Aberystwyth (2017).]]
O ganlyniad i fewnfudo ers canol yr 20g, o [[Lloegr|Loegr]] yn bennaf, nid yw holl drigolion Cymru yn arddel hunaniaeth Gymreig. Mae rhai ymfudwyr yn [[cymhathiad diwylliannol|cymhathu'n ddiwylliannol]], trwy ddysgu'r Gymraeg neu drwy ddanfon eu plant i ysgolion Cymraeg. Mae eraill yn glynu at eu hunaniaeth enedigol, neu yn uniaethu â diwylliannau lluosog. Mae nifer o ymfudwyr o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig yn mabwysiadu hunaniaeth Brydeinig ond nid Cymreig. Yn ôl [[Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011|Cyfrifiad 2011]], tua 2&nbsp;miliwn o breswylwyr Cymru a nododd eu bod yn Gymry, ac o'r rhain nododd 218,000 eu bod yn ystyried eu hunain yn Brydeinwyr hefyd. Nododd 424,000 eu bod yn Saeson a 519,000 eu bod yn Brydeinwyr yn unig.<ref>"[http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/20679373 Cyfrifiad 2011: Hunaniaeth ac Ethnigrwydd]", [[BBC]] (11 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 4 Ebrill 2018.</ref> Ceir cydberthyniad cryf rhwng siaradwyr Cymraeg ac hunaniaeth Gymreig. Yn ôl Cyfrifiad 2011 roedd 25.4% o’r rhai a ddywedodd fod ganddynt hunaniaeth Gymreig yn gallu siarad Cymraeg. O'r rhai a ystyriodd fod ganddynt hunaniaeth Gymreig a Phrydeinig, 20.0% oedd yn gallu siarad Cymraeg. Dim ond 6% o'r rhai a ystyriodd fod eu hunaniaeth yn Seisnig yn unig a oedd yn gallu siarad Cymraeg.<ref>"[https://statiaith.com/blog/cyfrifiad-2011/siartiau-am-y-gymraeg-o-gyfrifiad-2011/hunaniaeth-genedlaethol/ Hunaniaeth genedlaethol]", Statiaith. Adalwyd ar 4 Ebrill 2018.</ref>
 
== Cymry o dras estron ==
=== Saeson yng Nghymru ===
[[Delwedd:Born In England 2011 Census Wales.png|bawd|Map yn dangos y canran o bobl yng Nghymru a aned yn Lloegr yn ôl data Cyfrifiad 2011.]]
Mae 21% o drigolion Cymru wedi eu geni yn Lloegr, a 13.8% o'r boblogaeth yn arddel hunaniaeth Seisnig. Meddai ''Gwyddoniadur Cymru'': "Er bod llawer o'r mewnfudwyr hyn wedi ymgyfaddasu i fod, yng ngeiriau [[Gwyn A. Williams]], yn 'Gymry Newydd' – pobl yn cymryd rhan ddeallus a gweithredol ym mywyd y wlad – mae eraill wedi tueddu i beidio ag ymwneud â'r diwylliant cynhenid, ac wedi cyfrannu'n sylweddol tuag at Seisnigo Cymru."<ref>"Saeson" yn ''Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig'', t. 830.</ref>
 
=== Roma ===
{{prif|Roma yng Nghymru}}
[[Delwedd:Gypsies camping - probably Swansea (8678055650).jpg|bawd|chwith|Teulu o Sipsiwn yn gwersylla ger Abertawe (1953).]]
Mae'n debyg i'r bobl [[Roma]] fyw yng Nghymru, neu deithio drwyddi, ers y 15g. Yn ôl traddodiad, [[Abram Wood]] neu "Frenin y Sipsiwn" oedd y cyntaf ohonynt i breswylio yng Nghymru yn barhaol a hynny yn y 18g. Bu'r mwyafrif o Roma Cymreig ers hynny yn honni'r un waedoliaeth a chyfeirir atynt felly fel teulu Abram Wood. Yr enw safonol arnynt yw'r Kale. Maent yn perthyn i'r [[Romanichal]] yn Lloegr, ac mae'r hen iaith Romani Gymreig ar y cyfan yn unfath â'r Eingl-Romani. Bu'r dafodiaith Gymreig yn goroesi yn y gogledd hyd at 1950, ac er ei fod yn ffurf ar [[Romani (iaith)|Romani]] ac felly o deulu'r [[ieithoedd Indo-Ariaidd]], mae ganddi nifer o fenthyceiriau Cymraeg a Saesneg. Er iddynt parhau a'u [[bywyd crwydrol]] yn y 19g a dechrau'r 20g, cawsant eu cymhathu i ddiwylliant y Cymry mewn sawl ffordd, gan gynnwys troi at Gristnogaeth, mabwysiadu cyfenwau Cymraeg, a chymryd rhan mewn eisteddfodau. Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 0.1% o boblogaeth Cymru yn ystyried eu hunain yn Sipsi neu [[Teithwyr Gwyddelig|Deithiwr Gwyddelig]] o ran eu hethnigrwydd.
 
=== Cymry Eidalaidd ===
{{prif|Cymry Eidalaidd}}
O'r 1890au ymlaen ymfudodd nifer o [[Eidalwyr]] i Gymru, ac ymgartrefodd mwyafrif ohonynt yn [[Sir Forgannwg]] a [[Casnewydd|Chasnewydd]]. Bu nifer ohonynt yn berchen ar gaffis, [[Parlwr hufen iâ|parlyrau hufen iâ]], a siopau pysgod a sglodion. Yn [[y Rhondda]] cafodd eu galw'n "Bracchis" ar ôl perchennog caffi o'r adeg gynnar o fewnfudo. Yn yr 21g mae niferoedd y mewnfudwyr o'r Eidal i Gymru yn is ond gwelir etifeddiaeth yr hen gymuned Eidalaidd yn y cyfenwau Eidaleg a'r caffis a bwytai sydd yn dal i gael eu perchen gan ambell teulu. Ymhlith y Cymry enwog o dras Eidalaidd mae'r actor [[Victor Spinetti]], y paffiwr [[Joe Calzaghe]], a'r arlunydd [[Andrew Vicari]].
 
=== Cymry Du ac Asiaidd ===
{{prif|Cymry Du|Cymry Asiaidd}}
[[Delwedd:Muslim Community- Everyday Life in Butetown, Cardiff, Wales, UK, 1943 D15307.jpg|bawd|Plant o bob lliw yn chwarae yn [[Tre-biwt|Nhre-biwt]], Caerdydd (1943).]]<!--
[[Delwedd:Talat Chaudhri, Maer Aberystwyth.jpg|bawd|[[Talat Chaudhri]], Maer Aberystwyth: Pwnjabi ei ethnigrwydd, Seisnig ei enedigaeth, Mwslim ei grefydd, a Chymraeg ei iaith.]]-->
Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 3.4% o boblogaeth Cymru yn disgrifio eu hunain yn aelod o hil neu grŵp ethnig nad ydynt yn groenwyn, gan gynnwys 0.6% yn groenddu, 2.3 o dras Asiaidd, 0.3 yn [[Arabiaid|Arabaidd]], 0.2 o grwpiau ethnig eraill, ac 1% yn gymysg eu hil.
 
== Bywyd teuluol a phreifat ==