Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
creu erthygl using AWB |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= cenedl | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
[[Nofelydd]], [[ffermwr]] a [[bardd]] o [[Gymru]] oedd '''Richard Roberts'''
Cafodd ei eni yn fferm Diosg, [[Llanbryn-mair|Llanbrynmair]]
Roedd yn un o feibion [[John Roberts (diwinydd)|John Roberts]], gweinidog yr Hen Gapel, Llanbrynmair a Mary, (née Breese) ei wraig. Roedd John Roberts a'i feibion [[Samuel Roberts (S.R.)|Samuel Roberts (SR)]], [[John Roberts (J.R.)|John Roberts (JR)]] a GR yn gyfrifol am roi enw i Lanbrynmair fel un o ganolfannau [[Ymneilltuaeth yng Nghymru|Anghydffurfiaeth]], [[Rhyddfrydiaeth]] a [[llenyddiaeth]] pwysicaf Cymru'r 19 ganrif.
Fe gafodd GR ei fagu ar gyfer gwaith y fferm, ac nid oedd ganddo lawer o fanteision addysgol. Fel ei frodyr roedd ganddo chwaeth lenyddol gref. Roedd yn bregethwr lleyg yn enwad yr [[Annibynwyr]]. Ysgrifennodd lawer o ryddiaith a phenillion ar gyfer ''Y Cronicl'' a chylchgronau eraill. Roedd yn awdur nofel o’r enw ''Jeffrey Jarman, y meddwyn diwygiedig''. Mae ei gerdd, ''Cân y Glep '', a ymddangosodd yn Y Cronicl ym mis Tachwedd 1855, yn enghraifft wych o ddychan Cymreig. Ar 3 Chwefror 1853 priododd Anne Jones, o Gastell Bach, [[Rhaeadr Gwy]], bu iddynt un ferch. Ymfudodd y teulu i [[Tennessee]] ym 1856, lle adeiladodd GR bwthyn coed o'r enw Brynffynnon lle buont yn ymgartrefu fel ffermwr. Dychwelodd i Gymru ym mis Medi 1870 ac ymddeolodd i Brynmair, [[Conwy (tref)|Conwy]]. Bu farw 25 Gorffennaf 1883 ym Mrynmair; bu farw ei wraig ar 5 Mai 1886; priododd eu hunig blentyn, Margaret, â John Williams, Conwy.
==Cyfeiriadau==
|