Y Bywgraffiadur Cymreig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Morfuddnia (sgwrs | cyfraniadau)
Twtio
Morfuddnia (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 41:
 
<br />
<br />
 
==Hanes y Bywgraffiadur Cymreig==
Cyhoeddwyd ''Y Bywgraffiadur Cymreig'' yn wreiddiol gan [[Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion|Gymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion]] mewn tair cyfrol Gymraeg a dwy gyfrol Saesneg yn cwmpasu hanes pobl Cymru hyd at 1970:
Llinell 57:
Penderfynodd y Cymmrodorion ddechrau ar y gwaith o baratoi geiriadur bywgraffyddol Cymreig yn 1938, a phenodwyd [[John Edward Lloyd|Syr J. E. Lloyd]] yn Olygydd ac [[Robert Thomas Jenkins|R. T. Jenkins]] yn gynorthwywr iddo. Rhoddwyd y cynllun heibio dros dro yn ystod blynyddoedd cyntaf y rhyfel, a phan ailgydiwyd yn y gwaith tua diwedd 1943 dewisodd Syr J. E. Lloyd weithredu fel Golygydd Ymgynghorol, gyda R. T. Jenkins yn Olygydd. Pan fu farw J. E. Lloyd yn 1947 penodwyd Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru, [[William Llewelyn Davies|Syr William Llewelyn Davies]], yn Gydolygydd. Bu dau Lyfrgellydd arall yn Olygyddion yn eu tro, sef Dr E. D. Jones (1965-1987) a [[Brynley F. Roberts|Dr Brynley F. Roberts]] (1987-2013). Yr [[Dafydd Johnston|Athro Dafydd Johnston]], Cyfarwyddwr [[Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru|Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd]] Prifysgol Cymru, yw'r Golygydd ar hyn o bryd, gyda Dr Marion Löffler, Prifysgol Caerdydd, yn Olygydd Cynorthwyol.
<br />
<br />
 
==Pwy sydd yn y Bywgraffiadur Cymreig?==
Fel arfer, cynhwysir pobl sydd wedi cyrraedd amlygrwydd neu wedi gwneud cyfraniad arbennig neu arloesol yn eu meysydd, yn arbennig os yw eu cyfraniad yn barhaus ac ar lefel genedlaethol neu ryngwladol.