Y Bywgraffiadur Cymreig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Morfuddnia (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Morfuddnia (sgwrs | cyfraniadau)
Ychwanegu dolenni a thwtio
Llinell 93:
Yn 2004<ref>{{Cite news|url=http://news.bbc.co.uk/2/hi/uk_news/wales/mid_/3593598.stm|title=Historical who's who goes online|date=2004-08-24|language=en-GB|access-date=2019-09-02}}</ref> cyhoeddwyd fersiwn electronig o’r Bywgraffiadur Cymreig a oedd yn seiliedig ar ffurf y cyfrolau print, gan ddefnyddio meddalwedd cyhoeddi Anastasia (<nowiki>http://www.sd-editions.com/anastasia/index.html</nowiki>) i arddangos y cynnwys arlein. Rhoddwyd ystyriaeth ofalus i anghenion y defnyddwyr hynny a oedd yn gyfarwydd â'r Bywgraffiadur yn ei ffurf brintiedig, ac fe amgodiwyd y testun yn y fath ffordd fel ei bod yn bosib ei ddarllen a’i drafod arlein fel llyfr electronig, neu fel erthyglau unigol. Gan mai’r bwriad gwreiddiol oedd cyflwyno’r cyfrolau mewn ffurf electronig, ni wnaed unhryw waith ar gywiro’r gwallau yn y testun.
 
Yn 2007, yn dilyn problemau technegol, ail-wampiodd y Llyfrgell Genedlaethol y wefan, gan rannu’r ffeil TEI wreiddiol yn ffeiliau XML unigol ar gyfer pob erthygl, a’u harddangos gan ddefnyddio fframwaith cocoon (<nowiki>[http://cocoon.apache.org/</nowiki>) cocoon]. Crewyd y  ffwythiant chwilio drwy ddefnyddio cynllun Apache arall sef Lucene (<nowiki>[http://lucene.apache.org/</nowiki>) Lucene] a’r cyfan yn byw ar weinydd Apache Tomcat. Cychwynwyd hefyd ychwanegu erthyglau am unigolion a fu farw ers 1970. Ar-lein yn unig y cyhoeddwyd y Bywgraffiadur ers hynny.
 
Ers 2014, cynhelir a datblygir y wefan gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ar y cyd, gyda chefnogaeth y Cymmrodorion.
 
Yn ystod 2018<ref>{{Cite web|title=Lansio’r Bywgraffiadur Cymreig ar ei newydd wedd, ar-lein|url=https://golwg360.cymru/newyddion/addysg/532595-lansior-bywgraffiadur-cymreig-newydd-wedd-lein|website=Golwg360|date=2018-11-06|access-date=2019-09-02|language=cy}}</ref>, uwchraddiwyd y wefan ac mae bellach yn cynnwys dyluniad, ffwythiannau a chynnwys newydd. Troswyd yr holl amgodio i safon TEI P5<ref>{{Cite web|title=P5 Guidelines – TEI: Text Encoding Initiative|url=[https://tei-c.org/guidelines/p5/|website=tei-c.org|access-date=2019-09-02}}</ref> TEI P5]. Datblygwyd y wefan newydd gyda chymorth nawdd gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston<ref>{{Cite web|title=Colwinston Charitable Trust - Grants to Opera, Classical Music, Visual Arts companies|url=[https://colwinston.org.uk/|website=colwinston.org.uk|access-date=2019-09-02}}</ref> Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston] a’r Llyfrgell Genedlaethol.
 
Bwriedir cyfoethogi'r Bywgraffiadur trwy ei wneud yn amlgyfryngol, gyda delweddau, sain a fideo, a'i wneud yn adnodd addas ar gyfer sianelau'r cyfryngau cymdeithasol.