Llangystennin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Margaret |
|||
Llinell 6:
Mae eglwys Llangystennin yn hen. Yn ôl traddodiad, codwyd eglwys seml ar y safle yn y 5g. Yn [[Oes y Tywysogion]] roedd ym meddiant [[Abaty Aberconwy]] ac am gyfnod yn perthyn i eglwys [[Abergele]] yn ddiweddarach. Yn ôl un fersiwn o'r hanes, gwrandawyd cwyn [[Dafydd ap Gruffudd]], brawd [[Llywelyn ap Gruffudd]], Tywysog [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], yn erbyn y brenin [[Harri III o Loegr]] yn Llangystennin ; gwysiwyd y brenin gan abadau Aberconwy a [[Abaty Cymer|Chymer]] i ateb y cyhuddiad ond ni ddaeth (credir erbyn hyn mai i eglwys [[Caerwys]] y galwyd y brenin). Ceir ffenestr liw nodedig yn yr eglwys a meini coffa nifer o aelodau o deulu Llwydiaid Llangystennin yn ogystal.
==Pobl nodedig a aned yn Llangystennin==
* [[Margaret Lloyd (y gynulleidfa Forafaidd)]] (1709 – 1762) - Aelod o'r Gynulleidfa Forafaidd ac un o deulu Llwydiaid Hendrewaelod a Llangystennin.
==Cyfeiriadau==
|