Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hindi"

Ychwanegwyd 143 beit ,  8 mis yn ôl
Gwella golygiad an-wyddoniadurol.
(Gwella golygiad an-wyddoniadurol.)
 
Prif [[iaith]] swyddogol [[India]] yw '''Hindi''' neu '''Hindeg''' ([[Devanāgarī]]: {{lang|hi|हिन्दी}} neu {{lang|hi|हिंदी}}). (Mae [[Saesneg]] yn ail iaith swyddogol.) MaeFel [[Wrdw]], mae'n un o ffurfiau safonol yr iaith [[Hindwstaneg]], sy'n aelod o'r gangen [[Ieithoedd Indo-Iraneg|Indo-Iraneg]] o'r teulu ieithyddol [[Ieithoedd Indo-Ewropeaidd|Indo-Ewropeaidd]].
 
Siaredir Hindi fel mamiaith gan 180 miliwn o bobl yng ngogledd a chanolbarth India, tua 40% o boblogaeth India. Mae tua 25% o boblogaeth India yn medru Hindi fel ail iaith. Mae siaradwyr i'w cael hefyd yn [[Nepal]], [[Ffiji]], [[Mauritius]], [[Lloegr]], [[Trinidad a Tobago]], [[Gaiana]], [[Swrinam]], a llawer o wledydd eraill. Y bumed iaith fwyaf yn y byd ydyw o ran nifer o siaradwyr.
 
Ar ddiwedd y 19fed ganrif, bu mudiad i ddatblygu ffurf ysgrifenedig o [[Hindwstaneg]] oedd yn wahanol i [[Wrdw]]. Aethpwyd â hyn ymhellach wedi [[Hanes India|annibyniaeth]]; sefydlwyd comisiwn ym [[1954]] i safoni gramadeg Hindi. Yn gyffredinol, mae cyweiriau ffurfiol Hindi yn osgoi geiriau gyda tharddiad [[Perseg|Persiaidd]], gan ddefnyddio geiriau Sansgrit (gan gynnwys bathiadau) yn eu lle.
Mae'r gair Hindi yn un o hen enwau'r iaith [[Wrdw]]. Mae ystyr y gair hwn yn Indiaidd neu'n gysylltiedig ag India.
Gwnaed Hindi o [[Wrdw]] ar ddechrau'r 19eg ganrif. O dan y polisi seicolegol o 'rannu a rheoli', daeth yr iaith Hindi i fodolaeth trwy dynnu geiriau Wrdw-Bersiaidd o Wrdw a rhoi geiriau Sansgrit yn eu lle.
 
Mae'n perthyn yn agos i [[Wrdw]], a ddatblygodd allan ohoni gyda dylanwad yr iaith [[Perseg|Berseg]] yn y cyfnod modern. Ond ysgrifennir Hindi gan amlaf gydag ysgrifen [[Devanāgarī]], ac [[Wrdw]] gyda'r wyddor [[Arabeg]].