Aberystwyth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 93:
 
Lleolir gwasg [[Y Lolfa]] ym mhentref [[Tal-y-bont, Ceredigion]] nid nepell o Aberystwyth. Mae'r wasg yn cyflogi oddeutu hanner cant o bobl y fro. Sefydlwyd y wasg gan Robat Gruffudd, ond bellach mae'r wasg yn nwylo diogel ei feibion Garmon a Lefi. Dyma bellach un o'r gweisg mwyaf sy'n cyhoeddi cyfran helaeth o'i llyfrau drwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â [[Gwasg Gomer]] o Landysul, [[Gwasg Carreg Gwalch]] o Lanrwst a [[Gwasg y Dref Wen]] o Gaerdydd.
 
Un o brif sectorau economi'r dref yw ei thafarndai a'i chaffis niferus gydag oddeutu hanner cant o dai potas lle gellir llymeitian y ddiod gadarn wrth fodd eich calon hyd yr oriau mân. Ac ar ôl yfed i ormodedd, beth well na phanned o goffi cryf y bore trannoeth? Ni chewch eich siomi gan ddewis helaeth y dref o gaffis lle bydd yr espressos yn tasgu yn ddi-baid o'u peiriannau coffi.
 
==Bywyd Gwyllt==