Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwrthfilitariaeth"

Ychwanegwyd 1 beit ,  blwyddyn yn ôl
B
tr
(#wici365)
Tagiau: 2017 source edit
 
B (tr)
 
Yn ôl meddylwyr gwrthfilitaraidd yn Lloegr ac yn Unol Daleithiau America, y prif bryder ydy'r bygythiadau posib gan y lluoedd arfog ar y llywodraeth sifil. Buont yn dadlau felly dros berthynas rhwng y cadfridogion a'r gwleidyddion sy'n ffafrio'r awdurdodau sifil. Credid bod cyfyngiadau gwleidyddol ar rymoedd y lluoedd milwrol, fel y'i cynhwysir ym [[Mesur Hawliau 1689]] ac yng [[Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau|Nghyfansoddiad yr Unol Daleithiau]], yn cadw'r ffrwyn ar filitariaeth yn y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau. Yn yr 20g, mae pryderon am y [[cydberthynas filwrol-ddiwydiannol|gydberthynas filwrol-ddiwydiannol]] ac effeithiau'r [[cyfalafiaeth|gyfundrefn gyfalafol]] ar ryfela yn peri goblygiadau newydd i'r hen ddadl.<ref name=Vandervort/>
 
Nid yw gwrthfilitariaeth yn gyfystyr â [[heddychaeth]], er bod y ddau fudiad yn drwgdybusddrwgdybus o ddylanwad y lluoedd arfog ar gymdeithas. Mae heddychwyr yn ymgyrchu dros ddiarfogi'r holl fyd, tra bo gwrthfilitarwyr yn cydnabod yr angen am [[monopoli ar ddefnydd grym|rym cyfreithlon]] i gadw'r heddwch. Nid yw ychwaith yn gyfystyr â gwrth-[[cenedlaetholdeb|genedlaetholdeb]] neu wrth-[[gwladgarwch|wladgarwch]], er bod rhywfaint o orgyffwrdd rhwng y ddau feddylfryd, megis syniadaeth [[Karl Liebknecht]] a [[Rosa Luxemburg]]. Bu rhai gwrthfilitarwyr blaenllaw, er enghraifft y sosialydd Ffrengig [[Jean Jaurès]], yn wladgarwyr hefyd. Dadleuodd Jaurès dros ddisodli [[Byddin Ffrainc]] gyda milisia yn debyg i'r drefn yn [[y Swistir]] i liniaru [[jingoaeth]].<ref name=Vandervort>Bruce Vandervort, "Antimilitarism" yn ''Encyclopedia of Social History'', golygwyd gan Peter N. Stearns (Efrog Newydd: Garland Publishing, 1994), tt. 54–55.</ref>
 
== Cyfeiriadau ==
68,935

golygiad