140
golygiad
No edit summary |
Tegel (Sgwrs | cyfraniadau) B (Wedi gwrthdroi golygiadau gan 159.86.182.38 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan 78.150.140.162.) Tagiau: Rollback |
||
Gweddi Ladin oedd hi ar y dechrau, a adwaenid fel '''Y Pader''' ({{Iaith-la|Paternoster}}, {{Iaith-cy|Ein Tad}}). Daw o'r fersiwn o [[Efengyl Mathew]] yn y Beibl [[Fwlgat]] canoloesol.
== Gweddi'r Arglwydd yn y Gymraeg ==
Ceir y cyfieithiad [[Cymraeg]] cynharaf sydd ar glawr yn y testun [[Cymraeg Canol]] ''[[Pwyll y Pader]]'' ([[13g]] efallai), a gedwir yn ''[[Llyfr yr Ancr]]'' ([[14g]]). Er bod cyfieithiad Cymraeg yn bod mor gynnar â hynny, yn Lladin byddai pobl yn adrodd Gweddi'r Arglwydd yn yr Oesoedd Canol.
=== Y fersiwn Cymraeg Canol ===
:Ein Tad ni, yr hwn ysydd yn y nefoedd,
:Cadarnhaer dy Enw di, Arglwydd.
:Doed dy deyrnas di arnam ni.
:Bid arnam dy [e]wyllys di megys y mae yn y nef
:[ac felly] yn y ddaear.
:Dyro di ein bara beunyddiawl.
:Maddeu di, Arglwydd, ein pechodeu i ni a wnaetham i'th erbyn,
:megys y maddeuwn ninneu i ereill, o'th drugaredd ditheu,
:yr hwnn a wnaethant i'n herbyn ninneu.
:Na ddwg ti ni ym mhrofedigaeth.
:Rhyddhâ di ni, Arglwydd, y gan y drwg.<ref>Nesta Lloyd a Morfydd E. Owen (gol.), 'Pwyll y Pader', yn ''Drych yr Oesoedd Canol'' (Caerdydd, 1986). Diweddarwyd yr orgraff wreiddiol yn sylweddol.</ref>
=== Y weddi Gymraeg ddiweddar ===
:Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
:sancteiddier dy enw.
:Deled dy deyrnas.
:Gwneler dy ewyllys,
:megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
:Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.
:A maddau i ni ein dyledion,
:fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr.
:Ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg.
:Canys eiddot ti yw'r deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant yn oes oesoedd.
:Amen.
''ynteu:''
:Ein Tad, yn y nefoedd,
:sancteiddier dy Enw.
:Deled dy deyrnas.
:Gwneler dy ewyllys,
:ar y Ddaear, fel yn y nef.
:Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.
:A maddau i ni ein troseddau,
:fel y maddeuwn rhai a droseddwyd yn ein herbyn.
:A phaid a'n dwyn i brawf, ond gwared ni rhag drwg.
:Oherwydd eiddo ti yw'r deyrnas, y nerth a'r gogoniant, am fyth ac am fyth.
:Amen.
== Cyfeiriadau ==
|
golygiad