Jean Jaurès: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Llinell 12:
Bu rhywfaint o gymodi rhwng y carfanau sosialaidd yn Ffrainc, a chynhaliwyd y gyd-gyngres gyntaf ganddynt yn 1899. Chwalodd y berthynas unwaith eto yn sgil penderfyniad Millerand i ymuno â'r llywodraeth adain-chwith dan [[René Waldeck-Rousseau]], a daeth Jaurès i arwain y Blaid Sosialaidd Ffrengig (''Parti Socialiste Français''), grŵp ar wahân i Blaid Sosialaidd Ffrainc (''Parti Socialiste de France''). Ailetholwyd Jaurès yn 1902, a pharhaodd i gefnogi'r bloc adain-chwith yn Siambr y Dirprwyon ac ysgrifennu o blaid polisïau Waldeck-Rousseau.<ref name=EB/>
 
Yn y 1910au, cyflawnodd Jaurès ei gampwaith hanesyddol, ''Histoire socialiste de la Révolution française'' (1901–07), gwaith a ysbrydolwyd gan hanesyddiaeth Marx, [[Plutarch]], a [[Jules Michelet]]. Cydsefydlodd y papur newydd ''L'Humanité'' yn 1904, a fe gyhoeddodd sawl erthygl yn arddel egwyddorion [[sosialaeth ddemcorataiddddemocrataidd]]. Cyhoeddodd sawl llyfr ysgolheigaidd arall, gan gynnwys ''La Guerre franco-allemande 1870–1871'' (1908) a ''L’Armée nouvelle'' (1910).
 
Yn 1904, condemniwyd llywodraethau'r bwrdais gan [[yr Ail Gyngres Gydwladol]], ac ufuddhau a wnaeth Jaurès i'r gwaharddiad ar sosialwyr i gynnal llywodraethau an-sosialaidd. Cyfunodd y ddwy blaid sosialaidd Ffrengig yn 1905 gan ffurfio'r ''Section Française de l’Internationale Ouvrière'' (SFIO) yn wrthblaid i'r llywodraeth. O ganlyniad, ni ddaeth diwygiadau Waldeck-Rousseau i rym. O ran polisi tramor, dadleuodd Jaurès yn erbyn rhyfeloedd trefedigaethol ac o blaid [[gwrthfilitariaeth]] a [[nesâd]] rhwng Ffrainc a'r Almaen.<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Jean-Jaures |teitl=Jean Jaurès |dyddiadcyrchiad=8 Medi 2019 }}</ref>