Dieppe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|Canol hanesyddol Dieppe. :''Gweler hefyd Dieppe (gwahaniaethu).'' Dinas a chymuned yng ngogledd [[Ffra...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 21:12, 1 Tachwedd 2010

Dinas a chymuned yng ngogledd Ffrainc yw Dieppe, a leolir yn département Seine-Maritime yn rhanbarth Haute-Normandie. Mae'n borthladd sy'n gorwedd ar aber Afon Arques ar lan Môr Udd (la Manche neu'r 'Sianel'). Pobogaeth: 34,449 (2007).

Canol hanesyddol Dieppe.
Gweler hefyd Dieppe (gwahaniaethu).

Sefydlwyd treflan ar safle Dieppe gan y Llychlynwyr yn 910. Tella oedd enw'r afon yn y cyfnod hwnnw ond fe'i gelwyd yn Djupr ('dwfn') gan y Llychlynwyr a dyma darddiad enw dinas Dieppe. Fe'i cipwyd gan y Saeson yn 1420. Yn 1430 carcharwyd Jeanne d'Arc yno cyn ei chymryd i Rouen. Bu gan Dieppe ran amlwg yn anturiaethau morwrol y Ffrancod ar ddiwedd yr Oesoedd Canol fel man cychwyn sawl mordaith fasnachol a threfedigaethol i Affrica a'r Amerig.

Dolenni allanol

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.