Brychan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Etifeddiaeth: Cywiro iaith + disgynyddion
→‎Etifeddiaeth: isdeitlau
Llinell 4:
 
Cyfarfu rhieni Brychan yn [[Iwerddon]] ar ôl i'w fam fynd yno er mwyn dianc rhag gaeaf arbennig o oer. Priododd Marchell ach Tewdrig (mam Brychan) a oedd yn bennaeth [[Llanfaes]],<ref name=":0" /> ag Anlach ap Coronac, mab i bennaeth Gwyddelig, ar yr amod y byddai eu plant yn cael eu magu ar ei thir hi. Marchell oedd yn berchen Garth Madryn. Ganwyd Brychan, eu hunig plentyn, yng Ngarthmadrun tua'r flwyddyn 500 O.C. Ar ôl i Marchell farw etifeddodd Brychan ei thiroedd i'w trosglwyddo i'w ferched.
==EtifeddiaethDisgynyddion==
Roedd Brychan yn dad i bedwar ar hugain o ferched a tua 11 o feibion yn ôl y ''Cognatio de Brychan'' a ysgrifennwyd yn y [[10g]]<ref name=":0" /> ond mae wedi'i seilio ar ddogfennau hŷn sydd ymhellach ar goll<ref name=":0">Jones, TT, 1977, The daughters of Brychan, Brycheiniog Cyf.XVII</ref>. Mae'r 'Cognatio' yn enwi ei ferched fel a ganlyn:
 
Llinell 13:
:Cynog, Rhun, Cledwyn, Arthen, Pabai, Rhain Dremrudd, Mathaiarn, Dingad, Cyflefwr, Berwyn a Rhawin.<ref>Bartrum, P. C. 1966. Early Welsh Genealogical Tracts,Gwasg Prifysgol Cymru</ref> Cyfeirir at deulu ("llwyth") Brychan yn y [[Trioedd Ynys Prydain|Trioedd]] fel un o "dri llwyth seintiau Cymru", ynghyd â theuluoedd Caw (neu Coel) a [[Cunedda|Chunedda]]. Mae llawer o enwau eraill wedi ychwanegu at restrau "plant" Brychan. Maent fel arfer yn wyrion, yn wyresau neu'n or-wyrion iddo (e.e. Dyfnan, Dilig, Adwen, Mabon, Menefrida, Morwenna, Wenna a Gwenfyl). Mae hyn yn dilyn y patwrm arferol o 'Blant Adda' neu 'Deulu Abram Wood', am y disgynyddion.
 
==Etifeddiaeth==
Enwir nifer o eglwysi, yn y de a'r canolbarth yn bennaf, ar ôl Brychan a'i ddisgynyddion; bu Brycheiniog yn bwysig yn natblygiad Cristnogaeth Geltaidd<ref name=":1">Davies J, 1990 Hanes Cymru, Penguin</ref>. Disgrifiodd John Davies de-ddwyrain Cymru fel "meithrinfa'r Eglwys Geltaidd a chroth gweithgarwch a adfywiodd Ewrop." <ref name=":1" />