Recordiau Peski: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 19:
Mae'r enw Peski yn deillio o'r gair 'pesgi', gair sy'n disgrifio bwydo neu dewhau anifail ffarm. Bathwyd yr enw yn 2002 gan y sylfaenwyr Garmon Gruffydd, Rhys Edwards a ffrind arall wrth gerdded ar dir [[Eglwys Tyddewi]] yn [[Sir Benfro]]. Unwaith oedden nhw fewn yn y gadeirlan, fe arwyddodd y tri'r llyfr gwestai ac fe anwyd Recordiau Peski.
Cynnyrch cyntaf Peski oedd albwm gyntaf
Dros y blynyddoedd nesaf, fe wnaeth y label ryddhau sawl record gan David Mysterious (enw go iawn Cai Strachan), Evils a Stitches (prosiect unigol Rhydian Dafydd o [[The Joy Formidable]]), cyn arwyddo'r band pop indi seicadelig o Aberystwyth [[Race Horses|Radio Luxembourg]] yn 2007, a oedd wedi datgan bwriad i ryddhau dau EP cyn symud ymlaen i label recordiau yn Llundain. Ar ôl bodloni'r cytundeb, fe aeth Radio Luxembourg ymlaen i arwyddo gyda [[Fantastic Plastic Records]] ac fe newidion eu henw yn 2009 i osgoi problemau cyfreithiol posib gyda gorsaf radio [[Radio Luxembourg]].<ref>[[Race Horses]]</ref>
|