Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Crug crwn"

Ychwanegwyd 60 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
dolen
(crick)
(dolen)
Gweler hefyd: [[rhestr o grugiau crynion yng Nghymru]]</br>
Pentwr o bridd wedi'i osod gan bobl [[Oes Newydd y Cerrig]] fel rhan o'u seremoniau neu i gladdu'r meirw ydy '''crug crwn''' (enw gwrywaidd; Saesneg: ''round barrow''). "Bryncyn" neu "bentwr" ydy prif ystyron y gair [[Cymraeg]] 'crug', sy'n elfen bur gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru. ''Cruc'' ydy'r gair yn yr [[Cernyweg|Hen Gernyweg]] a'r [[Llydaweg|Hen Lydaweg]] a ''cruach'' yn yr [[Hen Wyddeleg]]. Mae'r gair i'w gael o fewn rhai ffurfiau [[Lladin]] ar hen enwau lleoedd [[Brythoneg]] megis ''Pennocrucium'', sef Penkridge heddiw ac fe'i benthycir yn y Saesneg fel "''crick''" fel yn y gair "''Crick''-howell". Y lluosog ydy: '''crugiau crwn''' neu '''crugiau crynion'''.