Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Frédéric Mistral"

Ychwanegwyd 1,383 beit ,  10 mis yn ôl
ehangu bywgraffiad, cats
(#wici365)
Tagiau: 2017 source edit
 
(ehangu bywgraffiad, cats)
Tagiau: 2017 source edit
{{infobox person/Wikidata| fetchwikidata=ALL| onlysourced=no | dateformat = dmy}}
[[Bardd]] [[Ffrancod|Ffrengig]] yn yr iaith [[Ocsitaneg]], yn gywir tafodiaith [[Profensaleg]], oedd '''Frédéric Mistral''' ([[8 Medi]] [[1830]] – [[25 Mawrth]] [[1914]]). Derbyniodd [[Gwobr Lenyddol Nobel|Wobr Lenyddol Nobel]] yn 1904, ar y cyd â [[José Echegaray y Eizaguirre]], am "wreiddioldeb byw a gwir ysbrydoliaeth ei gynnyrch barddonol, sy'n adlewyrchu'n ffyddlon y tirlun naturiol ac ysbryd cynhenid ei bobl, ac, yn ogystal, ei waith pwysig fel ieithegwr y Brofensaleg".<ref>{{eicon en}} "[https://www.nobelprize.org/prizes/literature/1904/summary/ The Nobel Prize in Literature 1904]", [[Sefydliad Nobel]]. Adalwyd ar 19 Medi 2019.</ref> Efe oedd ar flaen y gad yn y 19g yn y mudiad i adfywio'r diwylliant Ocsitaneg a'i thafodieithoedd ac i astudio'r iaith.
 
== Bywyd cynnar ac addysg ==
Ganwyd ym Maillane (Ocsitaneg: Malhana), [[Bouches-du-Rhône]], yn nwyrain Ocsitania.
Ganwyd ym Maillane (Ocsitaneg: Malhana), [[Bouches-du-Rhône]], yn hen dalaith [[Profens]] yn ne [[Ffrainc]]. Ffermwr cefnog oedd ei dad. Mynychodd Frédéric Goleg Brenhinol [[Avignon]], ac yno un o'i athrawon oedd y bardd Profensaleg [[Joseph Roumanille]]. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol [[Aix-en-Provence]] a derbyniodd ei radd yn 1851.<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Frederic-Mistral |teitl=Frédéric Mistral |dyddiadcyrchiad=19 Medi 2019 }}</ref>
 
== Gyrfa lenyddol ==
Roedd teulu Mistral yn ennill digon o arian iddo fyw heb chwilio am swydd, a phenderfynodd ymroi ei fywyd i adfer yr iaith Brofensaleg a'i diwylliant. Sefydlwyd cymdeithas Félibrige ganddo a'i gyfeillion yn 1854 er lles yr iaith. Yn ddiweddarach ehangodd y mudiad i gynnwys holl ''lo País d'Òc'' neu [[Ocsitania]]. Mistral oedd prif arweinydd Félibrige hyd at ei farwolaeth yn 1914.<ref name=EB/>
 
Treuliodd Mistral 20 mlynedd yn gweithio ar [[geiriadur|eiriadur]] Profensaleg, ''Lou Tresor dóu Félibrige'' (2 gyfrol; 1878). Sefydlodd hefydd amgueddfa ethnograffig yn [[Arles]] gyda'r arian a dderbyniodd am ei Wobr Nobel.<ref name=EB/>
 
== Diwedd ei oes ==
Bu farw ym Maillane yn 83 oed.
 
[[Categori:Beirdd Ffrengig yr 20fed ganrif]]
[[Categori:Beirdd Ffrengig yn yr iaith Ocsitaneg]]
[[Categori:Enillwyr Gwobr Lenyddol Nobel]]
[[Categori:Genedigaethau 1830]]
[[Categori:Geiriadurwyr]]
[[Categori:Ieithyddion Ffrengig]]
[[Categori:Marwolaethau 1914]]
[[Categori:Pobl o Bouches-du-Rhône‎]]
[[Categori:Ysgolheigion Ffrengig]]
65,276

golygiad