Frédéric Mistral: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu bywgraffiad, cats
Tagiau: Golygiad cod 2017
bywyd cynnar ac addysg, dp
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 3:
 
== Bywyd cynnar ac addysg ==
Ganwyd Frédéric Mistral ar 8 Medi 1830 ym Maillane (Ocsitaneg: Malhana), [[Bouches-du-Rhône]], yn hen dalaith [[Profens]] yn ne [[Ffrainc]]. FfermwrPentref cefnogyn oeddNyffryn ei[[Afon dad.Rhône|Rhône]] Mynychoddydy FrédéricMaillane Golega Brenhinolsaif hanner ffordd rhwng [[Avignon]], ac yno[[Arles]]. unFfermwr o'icefnog a athrawonthirfeddiannwr oedd yei bardddad François, a merch i faer Maillane oedd Delaïde. Profensaleg [[Josephoedd Roumanille]]mamiaith Frédéric, a chafodd ei fagu mewn diwylliant, llên gwerin, ac hanes lleol dan ddylanwad ei fam. AstudioddIaith yisel gyfraithei ymfri Mhrifysgoloedd ''lenga d'òc'' o'i chymharu â [[Aix-en-ProvenceFfrangeg]] asafonol, derbynioddsef eiiaith radd yny 1851gogledd.<ref name=EBEWB>{{dyfeicon Britannicaen}} |url="[https://www.britannicaencyclopedia.com/biographypeople/Fredericliterature-Mistraland-arts/french-literature-biographies/frederic-mistral#1G23446400141 |teitl=Frédéric Mistral]" yn ''Encyclopedia of World Biography'' (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar |dyddiadcyrchiad=19 Medi 2019 }}.</ref>
 
Cychwynnodd Frédéric fynychu'r ysgol yn 8 oed, ac ar y pryd roedd yn well ganddo chwarae nac astudio. Fe'i danfonwyd i [[ysgol breswyl]] Abbaye Saint-Michel de Frigolet, taith ddwy awr i ffwrdd o Maillane ar gert. Caeodd yr ysgol oherwydd sgandal, ac aeth Frédéric i ysgol breswyl arall, yn Avignon. Yn ddiweddarach astudiodd yn Collège Royal de Avignon, ac yno daeth yn gyfarwydd ag [[arwrgerddi]]'r Henfyd gan [[Homeros]] a [[Fyrsil]]. Yn y coleg daeth Frédéric yn fwy ymwybodol o statws israddol ei famiaith, a wynebodd y ffaith taw Ffrangeg oedd iaith ei gyd-ddisgyblion. Un o'i athrawon oedd y bardd Profensaleg [[Joseph Roumanille]], a daeth y ddau ohonynt yn ffrindiau clos. Magodd hefyd gyfeillgarwch â'i gyd-ddisgybl [[Anselme Mathieu]], a chawsant eu hysbrydoli gan farddoniaeth Brofensaleg [[Joseph Desanat]] a [[Pierre Bellot]].<ref name=EWB/>
 
Wedi iddo adael y coleg yn Awst 1847, aeth Mistral i [[Nîmes]] i astudio am ei radd baglor. Yn ystod [[chwyldroadau 1848]] ysgrifennodd Mistral gerdd, a gyhoeddwyd mewn sawl papur newydd lleol, yn lladd ar y [[brenhiniaeth|frenhiniaeth]].<ref name=EWB/> Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol [[Aix-en-Provence]] a derbyniodd ei radd yn 1851.<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Frederic-Mistral |teitl=Frédéric Mistral |dyddiadcyrchiad=19 Medi 2019 }}</ref>
 
== Gyrfa lenyddol ==
Roedd teulu Mistral yn ennill digon o arian iddo fyw heb chwilio am swydd, a phenderfynodd ymroi ei fywyd i adfer yr iaith Brofensaleg a'i diwylliant. Sefydlwyd cymdeithas Félibrige ganddo a chwech o'i gyfeillion yn 1854 er lles yr iaith. Yn ddiweddarach ehangodd y mudiad i gynnwys holl ''lo País d'Òc'' neu [[Ocsitania]]. Mistral oedd prif arweinydd Félibrige hyd at ei farwolaeth yn 1914.<ref name=EB/>
 
Treuliodd Mistral 20 mlynedd yn gweithio ar [[geiriadur|eiriadur]] Profensaleg, ''Lou Tresor dóu Félibrige'' (2 gyfrol; 1878, 1886). Sefydlodd hefydd amgueddfa ethnograffig yn [[Arles]] gyda'r arian a dderbyniodd am ei Wobr Nobel.<ref name=EB/>
 
== Diwedd ei oes ==
Bu farw ym Maillane ar 25 Mawrth 1914 yn 83 oed.
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
== Darllen pellach ==
* [[Richard Aldington]], ''Introduction to Mistral'' (Llundain: William Heinemann, 1956).
* Charles Alfred Downer, ''[https://archive.org/details/frdricmistralpo01downgoog Frédéric Mistral: Poet and Leader in Provence]'' (Efrog Newydd: Columbia University Press, 1901).
* Tudor Edwards, ''The Lion of Arles: A Portrait of Mistral and His Circle'' (Efrog Newydd: Fordham University Press, 1964).
 
{{DEFAULTSORT:Mistral, Frederic}}