Erthyliad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 69.159.130.45 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Xxglennxx.
Llinell 4:
 
== Mathau o erthyliadau ==
=== Erthyliad sydyn ===
Mae erthyliad sydyn (a elwir yn ''erthyliad naturiol'' hefyd) yn golygu symud yr embryo neu'r ffetws o ganlyniad i drawma damweiniol neu achosion naturiol cyn yr 20fed wythnos o'r beichiogrwydd. Digwydda'r mwyafrif o erthyliadau naturiol o ganlyniad i'r [[cromosom|cromosomau'n]] atgynhyrchu'n anghywir; gellir ei achosi hefyd gan ffactorau amgylcheddol. Gelwir beichiogrwydd sy'n dod i ben rhwng 20 a 37 wythnos o'r beichiogrwydd, os yw plentyn byw yn cael ei eni, yn "enedigaeth gynamserol". Pan yw'r ffetws yn marw yn y groth ar ôl tua ugain wythnos, neu wrth gael ei eni, defnyddir y term "marw-anedig". Yn gyffredinol, ni ystyrir genedigaethau cynamserol a marw-anedig yn erthyliadau naturiol er weithiau gall y termau yma gael eu defnyddio.
 
Ymddengys fod rhwng 10% a 50% o feichiogrwydd yn diweddu gydag erthyliad naturiol, yn dibynnu ar oed ac iechyd y wraig feichiog. Digwydda'r mwyafrif o erthyliadau naturiol yn gynnar iawn yn y beichiogrwydd, a gan amlaf, nid yw'r wraig yn ymwybodol ei bod yn feichiog.
 
Mae'r siawns o erthyliad sydyn yn lleihau'n sylweddol ar ôl y 10fed wythnos o'r [[misglwyf]] diwethaf. Yr achos mwyaf cyffredin dros erthyliad sydyn yn ystod cyfnod cyntaf y beichiogrwydd yw anghysonderau gyda chromosomau'r embryo / ffetws, a chyfra hyn am o leiaf 50% o feichiogrwydd a ddaeth i ben yn gynnar. Gall achosion eraill gynnwys afiechyd fasgwlaidd (megis [[lwpws]]), [[clefyd y siwgr]], problemau [[hormon|hormonaidd]] eraill, [[haint|heintiadau]] ac anghysonderau eraill yn y [[croth|groth]]. Mae oed beichiogrwydd hŷn a hanes meddygol o erthylu'n naturiol yn ffactorau allweddol sy'n gysylltiedig ag erthyliad sydyn. Gellir achosi erthyliad sydyn gan drawma damweiniol; ystyrir trawma bwriadol neu straen er mwyn achosi erthylu'n naturiol yn erthyliad wedi'i anwytho neu ffetysladdiad.
 
===Erthyliad wedi'i anwytho===
Gellir erthylu beichiogrwydd mewn nifer o ffyrdd. Mae'r dull yn dibynnu'n helaeth ar oed yr embryo neu'r ffetws, sy'n cynyddu o ran maint wrth iddo dyfu. Gellir defnyddio triniaethau penodol hefyd yn dibynnu ar y gyfraith, yr hyn a gynigir mewn ardal benodol, a dewis personol y meddyg-claf. Ceir rhesymau therapiwtig neu ddewisol dros anwytho erthyliad. Dywedir fod erthyliadau'n therapiwtig pan gaiff ei wneud er mwyn: