Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Crug crwn"

Ychwanegwyd 76 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
rhai trawiadol
(rhai trawiadol)
:''Gweler hefyd: [[rhestr o grugiau crynion yng Nghymru]]''</br>
[[Delwedd:The 'Cairn' at Gop Hill - geograph.org.uk - 237197.jpg|300px|bawd|Crug crwn ar gopa'r [[Y Gop|Gop]], [[Sir y Fflint]].]]
Pentwr o bridd wedi'i osod gan bobl [[Oes Newyddyr y CerrigEfydd]] fel rhan o'u seremoniau neu i gladdu'r meirw ydy '''crug crwn''' (enw gwrywaidd; Saesneg: ''round barrow''). "Bryncyn" neu "bentwr" ydy prif ystyron y gair [[Cymraeg]] 'crug', sy'n elfen bur gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru. ''Cruc'' ydy'r gair yn yr [[Cernyweg|Hen Gernyweg]] a'r [[Llydaweg|Hen Lydaweg]] a ''cruach'' yn yr [[Hen Wyddeleg]]. Mae'r gair i'w gael o fewn rhai ffurfiau [[Lladin]] ar hen enwau lleoedd [[Brythoneg]] megis ''Pennocrucium'', sef Penkridge heddiw ac fe'i benthycir yn y Saesneg fel "''crick''" fel yn y gair "''Crick''-howell". Y lluosog ydy: '''crugiau crwn''' neu '''crugiau crynion'''.
 
Pan fo siambr neu gell o fewn y crug i ddal y corff yna gelwir y crug yn [[siambr gladdu]]. Pan fo'r glaw a'r gwynt wedi'i herydu yna caiff ei disgrifio fel [[carnedd]]. Yng [[Pedair Cainc y Mabinogi|Nghainc Gyntaf y Mabinogi]] (testun ''[[Llyfr Gwyn Rhydderch]]'', 14eg ganrif) ceir hanes [[Pwyll]] yn gweld [[Rhiannon]]: "Ac yna... yn eistedd ar ben crug, y wreic teccaf or a welsei eiroet." <ref>''[[Geiriadur Prifysgol Cymru]]'', Cyfrol 1, tudalen 613.</ref>
 
Fe gychwynwyd eu codi tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd [[Oes yr Efydd]] (tua 600 C.C.). Codwyd y rhan fwyaf, fodd bynnag yn y cyfnod 2400 - 1500 C.C.<ref>[http://www.eng-h.gov.uk/mpp/mcd/jump3top.htm English Heritage]</ref>
 
==Rhai crugiau crynion dethol==
* [[Maes Mochnant Isaf‎]]: 40 metr mewn diamedr
 
==Gweler hefyd==