Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Canada: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 48:
Mae '''Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Canada''' ([[Ffrangeg]]: ''Équipe du Canada de rugby à XV'') yn cynrychioli [[Canada]] ar y lefel ryngwladol ym myd chwaraeon [[rygbi'r undeb]]. Fe'i dosbarthir gan [[World Rugby]] (y corff a adnebir fel Fwrdd Rygbi Rhyngwladol y Byd, yr IRB) yn yr ail ddosbarth cryfder (ail lefel). Chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf ym 1932 yn erbyn [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Siapan|Siapan]]. Mae'r tîm cymwyso ar gyfer pob [[Cwpan Rygbi'r Byd]] a chyrraedd ym 1991 gyda'r mynediad i'r rowndiau terfynol yn ganlyniad gorau. Bu'r tîm hefyd yn cymryd rhan yn y "Churchill Cup" a chwaraewyr, gan fwyaf gan timau Canada, UDA a Lloegr a thimau gwahodd eraill rhwng 2003 - 2011. Enw swyddogol undeb rygbi Canada yw "Rugby Canada" (gan osgoi yr angen am enw dwyieithog).
 
Mae'r tîm hefyd yn cymryd rhan yng nghystdleuaeth flynyddol "[[Pencampwriaeth Rygbi yr Americas"]] ("Americas Rugby Championship") sy'n cynnwys timau'r UDA, Wrwgwái, Brasil, Yr Ariannin a Tsile. Sefydlwyd y gystadleuaeth yn 2009 ac fe'i cymherir i [[Pencampwriaeth y Chwe Gwlad]] ar gyfer gyfandiroedd America.<ref>http://www.americasrugbynews.com/2015/09/04/americas-six-nations-start-february/</ref>
 
==Llysenwau a Chit==
Llinell 86:
* '''2007''' - Yng Nghwpan y Byd 2007, gêm gyfartal gyda Siapan oedd yr unig bwynt a enillwyd.
 
*'''2011'' - Canada oedd y tîm cenedlaethol cyntaf i gymhwyso ochr yn ochr â'r timau cyn-gymhwyso ar gyfer [[Cwpan rygbi'r Byd 2011]]. Cyflawnwyd hyn trwy fuddugoliaeth dros yr [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Unol Daleithiau America|UDA]] ddwy flynedd cyn dechrau'r twrnamaint. Yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd, er gwaethaf buddugoliaeth o 25:20 dros Tonga a gêm gyfartal gyda Japan dim ond y pedwerydd safle yng Ngrŵp A y gellid ei gyflawni.
 
* '''2015''' - Bu'n rhaid i Ganada chwarae gemau rhag-brofol er mwyn cymhwyso ar gyfer [[Cwpan Rygbi'r Byd 2015]] a gynhaliwyd yn Lloegr. Collodd Canada bob yn gêm ac ennill dim un pwynt.