Cyhoeddfa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 21:41, 21 Medi 2019

Cysyniad cymdeithasegol yw cyhoeddfa, neu y gyhoeddfa, sydd yn cyfeirio at y cylch mewn cymdeithas fodern a saif rhwng y wladwriaeth a chymdeithas sifil, ac sydd yn crybwyll y cyhoedd cyfan. Cyflwynwyd y syniad gan yr athronydd Jürgen Habermas, a fathai'r enw Almaeneg Öffentlichkeit. Bathwyd y term Cymraeg gan Huw Rees.[1]

Yn ôl Habermas, ymddangosodd y gyhoeddfa yn y cyfnod Ewropeaidd o'r 17g i'r 19g, fel gofod cymdeithasol a oedd yn wahanol i gymdeithas y llys brenhinol a'r wladwriaeth absoliwt. Datblygodd y gofod hwn o ganlyniad i'r ddadl gyhoeddus a hwyluswyd gan y wasg rydd, tai coffi, llyfrgelloedd cyhoeddus, a sefydliadau eraill. Ar y cyd â phoblogaeth lythrennog a oedd yn ymwybodol o newyddion y dydd, tyfodd hefyd y syniad o farn y cyhoedd, a'r effaith a gafwyd hynny ar ddemocratiaeth[2] Yn y byd modern mae'r gyhoeddfa yn cynnwys y cyfryngau torfol, y cyfryngau cymdeithasol, dadleuon o fewn a rhwng cyrff cymdeithas ddinesig a phleidiau gwleidyddol, â thrafodaethau anffurfiol rhwng dinasyddion.[3]

Cyfeiriadau

  1. Huw Williams, Credoau'r Cymry: Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2016), t. .
  2. Gerard Delanty, "Public sphere" yn The Concise Encyclopedia of Sociology, golygwyd gan George Ritzer a J. Michael Ryan (Caerfuddai: Wiley-Blackwell, 2011), t. 482.
  3. Dafydd Huw Rees, "Croeso i’r byd ôl-seciwlar", O'r Pedwar Gwynt (30 Tachwedd 2018). Adalwyd ar 21 Medi 2019.

Darllen pellach

  • Jürgen Habermas, The Structural Transformation of the Public Sphere (Caergrawnt: Polity Press, 1989).