Crug Cae Gwynach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

crug crwn, Rhuthun
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 07:50, 7 Tachwedd 2010

Crug crwn a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crug Cae Gwynach, Perllan yr Arglwydd, Rhuthun, Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ125580.

Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: DE105.[1] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.

Gellir ei weld o gefn tŷ bwyta'r "Yr Hen Sinema" yn Stryd y Ffynnon. Mae RCAHMW yn ei gysylltu gyda'r castell gerllaw gan fynnu mai mwnt canoloesol ydyw[2]; saif ym mherllan y castell, ger y pwll pysgod. Mae Cadw ar y llaw arall yn dweud mai crug crwn ydyw.[3] Mae'n 20 metr mewn diamedr ac yn 1.2m o uchder.

Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[4]

Gweler hefyd

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Dolen allanol

Cyfeiriadau

  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato