Brenda Hale: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Brenda Marjorie Hale''', Y Farwnes Hale o Richmond, neu'r Arglwyddes Hale (ganed 31 Ionawr 1945, yn farnwr sydd yn Llywydd Goruchaf Lys y...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:17, 24 Medi 2019

Mae Brenda Marjorie Hale, Y Farwnes Hale o Richmond, neu'r Arglwyddes Hale (ganed 31 Ionawr 1945, yn farnwr sydd yn Llywydd Goruchaf Lys y Deyrnas Gyfunol ers 2017.

Sefydlwyd swydd Llywydd y Goruchaf Lys yn 2009, a Hale yw'r trydydd i ymgymryd â'r swydd, a'r fenyw gyntaf. Mae hi'n un o dair menyw i'w hapwyntio i'r Goruchaf Lys, ynghyd â Jill Black a Mary Arden.

Ers 2018, mae Hale hefyd yn un o farnhwyr amharhaol Llys Apêl Olaf Hong Kong. Hithau a Beverley McLachlin yw'r menwyod cyntaf i wasanaethu yn y llys hwnnw. Mae Hale hefyd yn Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas y Gyfraith Prifysgol Caergrawnt ers 2015.

Bywgraffiad

Ganed Hale yn Leeds, Swydd Efrog ym 1945. Aeth i'r ysgol yn Richmond yng Ngogledd Swydd Efrog, gan fynd ymlaen i astudio'r gyfraith yng Ngholeg Girton yng Nghaergrawnt. Wedi gweithio fel darlithydd cynorthwyol ym Mhrifysgol Victoria ym Manceinion, daeth yn fargyfreithiwr ym 1969.

Bu'n gweithio fel bargyfreithiwr rhan amser, gan dreulio 18 mlynedd yn y byd academaidd yn bennaf, gan ddod yn Athrawes y Gyfraith ym Mhrifysgol Manceinion ym 1986. Ym 1984, hi oedd y fenyw gyntaf a'r person ieuengaf i'w phenodi'n aelod o Gomisiwn y Gyfraith, gan oruchwylio nifer o ddiwygiadau i gyfraith teuluoedd yn ystod ei naw mlynedd ar y Comisiwn.

Gyrfa Farnwrol

Ar 24 Medi 2019, barnodd Hale a deg o'i chyd-farnwyr yn unfrydol fod penderfyniad Boris Johnson i brorogio Senedd y Deyrnas Gyfunol (i) yn ddarostyngedig i'r gyfraith, a (ii) yn anghyfreithiol, ac felly yn "ddi-rym ac heb effaith".

[Categori:Barnwyr_Prydeinig]