Dafydd ab Owain Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) Gwybodlen using AWB |
Deb (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
Roedd '''Dafydd ab Owain Gwynedd''' (bu farw [[1203]]) yn frenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] neu rannau o'r deyrnas rhwng 1170 a 1195. Am gyfnod bu'n teyrnasu ar y cyd a'i frodyr [[Maelgwn ab Owain Gwynedd]] a [[Rhodri ab Owain Gwynedd]].
==Hanes ei fywyd==
Roedd Dafydd yn fab i [[Owain Gwynedd]] o'i wraig [[Cristin ferch Goronwy]]. Oherwydd fod Cristin yn gyfnither i Owain, nid oedd yr eglwys yn cydnabod y briodas, ac felly ystyrid Dafydd yn blentyn gordderch. Clywir amdano gyntaf yn [[1157]] pan ymosododd
Pan fu Owain farw yn 1170, aeth yn ymrafael rhwng ei feibion am y deyrnas. Ymosododd Dafydd a Rhodri ar eu brawd [[Hywel ab Owain Gwynedd]], a'i yrru ar ffo i [[Iwerddon]]. Pan ddychwelodd Hywel gyda byddin o Iwerddon yr un flwyddyn, lladdwyd ef mewn brwydr ym [[Pentraeth|Mhentraeth]]. Yn 1173, gyrrodd Dafydd ei frawd Maelgwn ar ffo i Iwerddon, a bu brawd arall, Cynan, farw yn 1174. Yr un flwyddyn llwyddodd Dafydd i ddal a charcharu Maelgwn (oedd wedi dychwelyd o Iwerddon) a Rhodri, gan ddod yn frenin Gwynedd oll. Y flwyddyn honno hefyd priododd [[Emme o Anjou]], merch i [[Sieffre o Anjou]] a hanner chwaer i'r brenin Harri.
|