Sgwrs Wicipedia:Eginyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Mh96 (sgwrs | cyfraniadau) B Sgwrs Wicipedia:Stwbyn wedi'i symud i Sgwrs Wicipedia:Eginyn |
Osian (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
dwi ddim wedi cyfrannu llawer at wicipedia hyd yma; er y byddwn yn hoffi cyfrannu mwy, does dim llawer o wybodaeth yn fy mhen i'w chyfrannu! dwi chwaith ddim yn siwr pwy sydd 'in charge' yma na ble mae trafod materion sy'n codi o dro i dro..?
un peth sydd yn fy nharo i'n rhyfedd ar wicipedia weithiau yw trefn brawddegau. i fi, byddai
'''Eginyn yw'r erthygl hon'''
yn fwy naturiol na
'''Mae'r erthygl hon yn eginyn'''
gan mai rhywbeth bach yw eginyn; yn Gymraeg mae gwahaniaeth (Bachgen bach yw Dewi, ond mae Rhodri yn fachgen mawr). os yw pobl eraill yn cytuno, a fyddai modd newid y frawddeg hon, gan ei bod yn codi mor aml?
efallai y byddai "Gallwch ''ei'' helpu ''i'' dyfu" yn gywirach hefyd.
os felly, '''"Eginyn yw'r erthygl hon. Gallwch ei helpu i dyfu"'''
[[Defnyddiwr:Osian|Osian]] 16:24, 26 Rhagfyr 2006 (UTC)
|