A55: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
D22 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
D22 (sgwrs | cyfraniadau) helaethu |
||
Llinell 1:
[[delwedd:A55 at Warren Mountain.jpg|right|thumb|Yr A55]]
Mae'r '''A55''' yn ffordd ddeuol yng [[Gogledd Cymru|Ngogledd Cymru]], o [[Caer|Gaer]] i [[Caergybi|Gaergybi]].
==Hanes==
Roedd y [[Ymerodraeth Rhufeinig|Rhufeiniad]] wedi adeiladu ffordd ar draws Gogledd Cymru er mwyn cysylltu eu cestyll yng Ngaer (''[[Deva]]'') a [[Caernarfon|Chaernarfon]] (''[[Segontiwm]]'') - ond prin iawn bod y ffordd bresennol yn dilyn yr un llwybr. Yn wir, roedd pentiroedd Penmaenmawr a Phen-y-clip wedi trechu'r teithwyr cynnar, gyda'r llwybr dros [[Bwlch y Ddeufaen]] yn rhoi llwybr mwy diogel at [[Eryri]].
Mae hanes yr A55 yn dechrau gyda [[Thomas Telford]]. Pan gomisiynwyd ef i adeiladu'r [[A5]] o [[Lundain]] i [[Caergybi|Gaergybi]], gofynwyd hefyd iddo wella'r ffordd o [[Conwy|Gonwy]] ar draws yr arfordir at ei ffordd newydd, gan gynnwys pontio'r [[Afon Conwy]]. Adeiladodd Telford [[Pont Grog Conwy]], a agorwyd yn [[1826]], fel y bont cyntaf ar draws yr afon yn y fan yma, llawer is na phontydd blaenorol, ac roedd hefyd wedi adeiladu ei ffordd dros lethrau'r ddau bentir peryglus. Roedd hwn felly wedi agor i fyny llwybr yr A55 presennol i deithio o Gaer i [[Bangor|Fangor]] trwy [[Conwy (tref)|Conwy]].
Yn y [[1930au]], gwellwyd ffordd Telford pan adeiladwyd yn sylweddol i leddfu'r siwrnai dros bentiroedd Penmaenmawr (un twnel) a Phen-y-clip (dau dwnel a phont dros rhan o'r môr). Yn [[1959]], agorwyd pont newydd ar draws [[Afon Conwy]] wrth ymyl y bont grog.
==Y Ffordd Fodern==
Rhwng y [[1960au]] a'r [[1980au]], mewn cyfres o ffyrdd osgoi, gwelliannau bychan a pheirianeg sifil mwy sylweddol, gwellwyd y cyfan o'r ffordd i fod yn ffordd ddeuol, ''Gwibffordd Gogledd Cymru''. Fel rhan o'r gwaith hwn, adeiladwyd twnel dan y môr fel ffordd amgen i groesi [[Afon Conwy]] ac osgoi tagfeydd traffig yn nhref [[Conwy (tref)|Conwy]], ac adeiladwyd twnelau mwy sylweddol drwy'r ddau pentir.
Yn [[2001]], fel rhan o gynllun Cynllun Cyllid Preifat, ymestynwyd yr ffordd i gynnwys [[Pont Britannia]] (a rifwyd yr A5 cyn hynny) ac ar draws [[Ynys Môn]], fel ffordd ddeuol ar draws yr ynys i osgoi pentrefi yr [[A5]].
Mae'r A55 gyfan bellach wedi ei ddynodi yn rhan o Ffordd Ewropeaidd E22.
{{eginyn}}
[[en:A55 road]]
[[sv:A55 (Storbritannien)]]
|