ehangu
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) |
ehangu Tagiau: Golygiad cod 2017 |
||
Llinell 2:
| fetchwikidata=ALL
| onlysourced=no
| nationality = {{banergwlad|Gwlad Belg}}
| dateformat = dmy
| image = Bundesarchiv Bild 183-39998-0427, Paul-Henri Spaak.jpg
| caption = Paul-Henri Spaak yn 1957.
}}
[[Gwleidydd]] a [[
== Bywyd cynnar ac addysg (1899–1931) ==
{{Rheoli awdurdod}}▼
Ganwyd Paul Henri Charles Spaak ar 25 Ionawr 1899 yn [[Schaerbeek]], ger [[Brwsel]], yn fab i'r bardd a dramodydd Paul Spaak. Astudiodd [[cyfreitheg|gyfreitheg]] ym Mhrifysgol Brwsel a derbyniodd ei radd yn 1921.<ref name=Nuenlist/> Gweithiodd yn [[cyfreithiwr|gyfreithiwr]] o 1921 i 1931.<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Paul-Henri-Spaak |teitl=Paul-Henri Spaak |dyddiadcyrchiad=28 Medi 2019 }}</ref>
== Gyrfa wleidyddol hyd ddiwedd y rhyfel (1932–44) ==
[[Delwedd:Paul-Henri Spaak (1937).jpg|bawd|chwith|Y Gweinidog Tramor Spaak yn ei [[het silc]], yn 1937.]]
Cychwynnodd ar ei yrfa wleidyddol yn 1932 pryd etholwyd i Siambr y Dirprwyon yn aelod o Blaid Lafur Gwlad Belg. Gwasanaethodd yn weinidog tramor o 1936 i 1938 ac yn brif weinidog o 1938 i 1939, y sosialydd cyntaf i arwain llywodraeth Gwlad Belg. Er iddo ennill cydsyniad y Ffrancod a'r Prydeinwyr i lunio polisi tramor annibynnol i'w wlad, methiant a fu ei ymdrechion i sicrhau niwtraliaeth Gwlad Belg yn ystod [[yr Ail Ryfel Byd]]. Wedi i Wlad Belg ildio i'r [[Almaen Natsïaidd]] ar ddiwedd [[Brwydr Ffrainc|yr Ymgyrch Deunaw Niwrnod]] ym Mai 1940, aeth Spaak i Baris ac yna Llundain yn weinidog tramor yn llywodraeth alltud Gwlad Belg o 1940 i 1944.<ref name=EB/>
== Gyrfa wleidyddol wedi'r rhyfel (1945–66) ==
Wedi i'r [[Cynghreiriaid yr Ail Ryfel Byd|Cynghreiriaid]] ryddhau Gwlad Belg yn 1944, dychwelodd Spaak i'w famwlad. Gwasanaethodd yn weinidog tramor Gwlad Belg o 1945 i 1947, ac yn brif weinidog ar [[llywodraeth glymblaid|lywodraeth glymblaid]] y Sosialwyr a'r Cristnogion Cymdeithasol o Fawrth 1947 i Awst 1949.<ref name=EWB>{{eicon en}} "[https://www.encyclopedia.com/people/history/benelux-history-biographies/paul-henri-spaak Paul Henri Spaak]" yn ''Encyclopedia of World Biography''. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 28 Medi 2019.</ref> Yn y cyfnod hwnnw cyflwynwyd yr etholfraint i fenywod yng Ngwlad Belg a chafodd y banc cenedlaethol ei wladoli.<ref name=EB/>
Wedi'r Ail Ryfel Byd, daeth Spaak yn ffigur blaenllaw mewn ymdrechion y Cynghreiriaid gorllewinol i sefydlu cyfundrefn ryngwladol newydd ar sail [[cyd-ddiogelwch]]. Cynorthwyodd wrth fraslunio [[Siarter y Cenhedloedd Unedig]], a gwasanaethodd yn gadeirydd cyntaf [[Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig]] yn 1946. Ar 28 Medi 1948 traddododd ei araith enwog i'r Cenhedloedd Unedig yn achwyn ar bolisïau'r [[Undeb Sofietaidd]] ac yn mynegi pryderon gwledydd y Gorllewin ar ddechrau'r [[Rhyfel Oer]].<ref name=Nuenlist>Christian Nuenlist, "Spaak, Henri-Pail" yn ''Cold War: A Student Encyclopedia'', golygwyd gan Spencer C. Tucker (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2008), tt. 1908–10.</ref>
Ymgyrchodd Spaak dros sefydlu [[undeb tollau]] [[Benelwcs]] – Gwlad Belg, [[yr Iseldiroedd]], a [[Lwcsembwrg]] – ers blynyddoedd y rhyfel, a chyflawnwyd y gamp honno yn 1948. Yn Awst 1949 daeth yn llywydd [[Cyngor Ewrop]], ac ymddiswyddodd yn 1951 dros ddiffyg cefnogaeth i'r sefydliad gan lywodraethau ei aelodau. Bu hefyd yn chwarae ran flaenllaw wrth greu [[Cymuned Glo a Dur Ewrop]], a gwasanaethodd yn llywydd ar gynulliad cyffredinol y sefydliad hwnnw o 1952 i 1954. Ceisiodd hefyd ffurfio Cymuned Amddiffyn Ewrop cyn i Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc atal yr ymdrech honno yn 1954.<ref name=Nuenlist/> Gwasanaethodd yn weinidog tramor eto o Ebrill 1954 i Fai 1957.<ref name=EWB/> Penodwyd Spaak gan Gyngor Messina yn 1955 i arwain pwyllgor i ymchwilio i bosibilrwydd marchnad gyffredin yn Ewrop, ac o ganlyniad i'w adroddiad crewyd [[Cymuned Economaidd Ewrop]] a [[Cymuned Ynni Niwclear Ewrop]] gan Gytundebau Rhufain yn 1957.<ref name=Nuenlist/>
Dewiswyd Spaak yn ail Ysgrifennydd Cyffredinol NATO yn Rhagfyr 1956, gan olynu'r Cadfridog [[Hastings Ismay, Barwn 1af Ismay]], a chychwynnodd yn y swydd ym Mai 1957. Wrth iddo gymryd y llyw, wynebai NATO ymraniadau rhwng ei aelod-wladwriaethau ynghylch [[argyfwng Suez]]. Gweithiodd Spaak i drawsnewid NATO o fod yn gynghrair milwrol yn unig i fod yn gyfundrefn wleidyddol bwysig yn y Rhyfel Oer, ac yn ganolfan i'w aelodau gydlynu eu polisïau tramor a chyfathrebu'n ddiplomyddol â'r [[bloc Dwyreiniol]]. Wedi i [[Charles de Gaulle]] ddychwelyd yn Arlywydd Ffrainc ym Mehefin 1958, bu'n hyrwyddo polisïau [[Gauliaeth|Gaulaidd]] a oedd yn rhwystro effeithioldeb milwrol NATO. Penderfynodd Spaak roi'r gorau i'r swydd yn Ionawr 1961.<ref name-Nuenlist/>
[[Delwedd:President John F. Kennedy Meets with Paul-Henri Spaak, Foreign Minister of Belgium.jpg|bawd|Cyfarfod yn yr Oval Office ar 20 Tachwedd 1961.<br/>O'r chwith i'r dde: Y Barwn Robert Rothschild, Pennaeth ar Gabinet Gwlad Belg; Spaak, Gweinidog Tramor; [[John F. Kennedy]], Arlywydd yr Unol Daleithiau; a Louis Scheyven, llysgennad Gwlad Belg i'r Unol Daleithiau.]]
Gwasanaethodd Spaak yn ddirprwy brif weinidog (1961–65), gweinidog materion Affricanaidd, a gweinidog tramor Gwlad Belg (1961–66) yn llywodraeth glymblaid y Prif Weinidog [[Théo Lefevre]]. Ymddiswyddodd Spaak o wleidyddiaeth Gwlad Belg ym Mawrth 1966 o ganlyniad i anghytundeb yn y Blaid Sosialaidd dros ail-leoli pencadlys NATO i Frwsel.<ref name=Nuenlist/>
== Diwedd ei oes (1967–72) ==
Yn y cyfnod 1967–72, arweiniodd Spaak grŵp arbennig yn NATO gyda'r nod o wella cysylltiadau rhwng aelod-wladwriaethau'r cynghrair. Cyhoeddodd ei hunangofiant, ''Combats inachevés'', yn 1969. Bu farw ar 31 Gorffennaf 1972 yn 73 oed ym Mrwsel.<ref name=Nuenlist/>
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
== Darllen pellach ==
* Michel Dumoulin, ''Spaak'' (Brwsel: Racine, 1999).
* J. H. Huizinga, ''Mr Europe: A Political Biography of Paul Henri Spaak'' (1961).
▲{{Rheoli awdurdod}}
{{DEFAULTSORT:Spaak, Paul-Henri}}
[[Categori:Cyfreithwyr Belgaidd]]
[[Categori:Diplomyddion Belgaidd]]
[[Categori:Genedigaethau 1899]]
[[Categori:Gwleidyddion Belgaidd yr 20fed ganrif]]
[[Categori:Hunangofianwyr Belgaidd yn yr iaith Ffrangeg]]
[[Categori:Llywyddion Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig]]
[[Categori:Llywyddion Senedd Ewrop]]
[[Categori:Marwolaethau 1972]]
[[Categori:Prif Weinidogion Gwlad Belg]]
[[Categori:Sosialwyr Belgaidd]]
[[Categori:Ysgrifenyddion Cyffredinol NATO]]
|