B
→Gyrfa wleidyddol wedi'r rhyfel (1945–66): teipo
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu Tagiau: Golygiad cod 2017 |
Tagiau: Golygiad cod 2017 |
||
Llinell 23:
Ymgyrchodd Spaak dros sefydlu [[undeb tollau]] [[Benelwcs]] – Gwlad Belg, [[yr Iseldiroedd]], a [[Lwcsembwrg]] – ers blynyddoedd y rhyfel, a chyflawnwyd y gamp honno yn 1948. Yn Awst 1949 daeth yn llywydd [[Cyngor Ewrop]], ac ymddiswyddodd yn 1951 dros ddiffyg cefnogaeth i'r sefydliad gan lywodraethau ei aelodau. Bu hefyd yn chwarae ran flaenllaw wrth greu [[Cymuned Glo a Dur Ewrop]], a gwasanaethodd yn llywydd ar gynulliad cyffredinol y sefydliad hwnnw o 1952 i 1954. Ceisiodd hefyd ffurfio Cymuned Amddiffyn Ewrop cyn i Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc atal yr ymdrech honno yn 1954.<ref name=Nuenlist/> Gwasanaethodd yn weinidog tramor eto o Ebrill 1954 i Fai 1957.<ref name=EWB/> Penodwyd Spaak gan Gyngor Messina yn 1955 i arwain pwyllgor i ymchwilio i bosibilrwydd marchnad gyffredin yn Ewrop, ac o ganlyniad i'w adroddiad crewyd [[Cymuned Economaidd Ewrop]] a [[Cymuned Ynni Niwclear Ewrop]] gan Gytundebau Rhufain yn 1957.<ref name=Nuenlist/>
Dewiswyd Spaak yn ail Ysgrifennydd Cyffredinol NATO yn Rhagfyr 1956, gan olynu'r Cadfridog [[Hastings Ismay, Barwn 1af Ismay]], a chychwynnodd yn y swydd ym Mai 1957. Wrth iddo gymryd y llyw, wynebai NATO ymraniadau rhwng ei aelod-wladwriaethau ynghylch [[argyfwng Suez]]. Gweithiodd Spaak i drawsnewid NATO o fod yn gynghrair milwrol yn unig i fod yn gyfundrefn wleidyddol bwysig yn y Rhyfel Oer, ac yn ganolfan i'w aelodau gydlynu eu polisïau tramor a chyfathrebu'n ddiplomyddol â'r [[bloc Dwyreiniol]]. Wedi i [[Charles de Gaulle]] ddychwelyd yn Arlywydd Ffrainc ym Mehefin 1958, bu'n hyrwyddo polisïau [[Gauliaeth|Gaulaidd]] a oedd yn rhwystro effeithioldeb milwrol NATO. Penderfynodd Spaak roi'r gorau i'r swydd yn Ionawr 1961.<ref name
[[Delwedd:President John F. Kennedy Meets with Paul-Henri Spaak, Foreign Minister of Belgium.jpg|bawd|Cyfarfod yn yr Oval Office ar 20 Tachwedd 1961.<br/>O'r chwith i'r dde: Y Barwn Robert Rothschild, Pennaeth ar Gabinet Gwlad Belg; Spaak, Gweinidog Tramor; [[John F. Kennedy]], Arlywydd yr Unol Daleithiau; a Louis Scheyven, llysgennad Gwlad Belg i'r Unol Daleithiau.]]
|