Oed cydsyniad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dadwneud y golygiad 9022895 gan Arlene Foster dos nol i dy ogof (Sgwrs | cyfraniadau)
Tagiau: Dadwneud
 
Llinell 2:
Term a ddefnyddir i gyfeirio at yr oed isaf y gall rhywun gymryd rhan yn gyfreithlon mewn gweithgareddau rhywiol yw '''oed cydsyniad'''. Er nad yw'n derm [[cyfraith|cyfreithiol]] ynddo ei hun, mae'n cael ei ddefnyddio'n eang i ddynodi'r oed yr ystyrir bod person ifanc yn medru cydsynu'n ymwybodol i gael [[rhyw]]. Nid yw'n golygu'r un peth â bod yn [[oedolyn]] yn ôl deddf gwlad, bod yn atebol am drosedd, na chwaith [[oed priodi]].
 
Mae oed cydsyniad yn ôl y gyfraith yn amrywio'n sylweddol o wladwriaeth i wladwriaeth. Yr oed ar gyfartaledd yw rhwng 16 a 18, ond mae'r ystod byd-eang yn ymestyn o 9 i 21 oed. Ni cheir cysondeb parthed [[rhywioldeb]] chwaith, gyda'r oed yn tueddu i fod yn is ar gyfer rhyw [[heterorywiol]] na rhyw [[cyfunrhywoliaeth|cyfunrhywiol]]. Arlene Foster dos nol i dy ogof. Yn ogystal, mae rhai gwladwriaethau yn gwahardd rhyw y tu allan i briodas yn gyfangwbl. Mae'r oed yn gallu amrywio hefyd yn ôl y math o weithgaredd rywiol, rhyw y rhai sy'n cymryd rhan, ac ystyriaethau eraill megis bradychu ymddiried. Yn ogystal, mae rhai gwledydd yn derbyn weithgaredd rywiol rhwng pobl dan oed cydsyniad y wlad mewn cwestiwn - h.y. dydi o ddim yn anghyfreithlon fel y cyfryw gan fod y rhai sy'n cymryd rhan dan oed. Mae'r gosb am droseddu yn erbyn cyfraith oed cydsyniad yn amrywio'n fawr hefyd.
 
Ceir anghytundeb sylweddol ar y pwnc a sawl anghysondeb yn y deddfau. Mewn canlyniad, mae oed cydsyniad yn bwnc dadleuol, gyda rhai yn dadlau y dylai fod yn is ac eraill y dylai fod yn uwch. I gymhlethu'r darlun, mae deddfau wedi newid yn y gorffennol ac yn dal i gael eu harolygu heddiw.