Tennessee Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Dramâu: Golygu cyffredinol (manion), replaced: ennillodd → enillodd using AWB
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr
Llinell 41:
 
== Gwaith llenyddol ==
Roedd Williams yn byw o 1939 yn y French Quarter, [[New Orleans]], [[Louisiana]]. Yma yr ysgrifennodd ef ei ddramâu enwog ''The Glass Menagerie'' (1944), cyfieithiad Cymraeg ''Pethau Brau'' (1992) ac ''A Streetcar Named Desire'' (1947) a gyfeithwyd i'r Gymraeg dan yr enw ''Cab Chwant'' (1995) - y ddau drosiad gan Emyr Edwards. Symudodd wedyn i [[Key West]], [[Florida]], efo'i bartner oes, Frank Merlo, (bu farw ym 1963 o gancr yr ysgyfaint) roedd y berthynas rhyngddynt yn help mawr iddo oroesi cyfnodau o iselder . Ni chafodd gymaint o lwyddiant wedi marwolaeth ei gymar oes ym 1963 - ond ym mis Medi 2006 cynhyrchwyd ei ddrama 'heb ei gyhoeddi' ''The Parade, or Approaching the End of Summer'', sy'n fath o [[hunangofiant]]. Cyhoeddwyd ei ddrama olaf ''A House Not Meant to Stand'' yn 2008. Roedd yn awdur straeon byrion cyn troi at ddrama. Ysgrifennodd hefyd tua 70 a ddramâu un act.
 
Erbyn heddiw - oherwydd enwogrwydd Tennessee Williams - mae Key West yn un o brif gymunedau [[hoyw]] yr Unol Daleithiau. Roedd ei chwaer Rose yn scitsoffrenaidd a dreuliodd ei bywyd mewn ysbytai - ac wedi iddi ddioddef lobotimi gwylltiodd Tennessee efo ei deulu . Roedd Williams ei hun yn gaeth i alcohol, amphetaminau a barbitiwradau. Bu farw dan eu dylanwad ym 1983.
 
== Llyfryddiaeth ==