Paris: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr
Llinell 13:
Daeth rheolaeth Rhufain ym Mharis i ben ym [[508]] pan ddaeth y dref yn brif ddinas y [[Merofingiaid]] o dan [[Clovis I]]. O achos goresgyniad yr ardal gan [[y Llychlynwyr]] yn yr [[8fed ganrif|wythfed ganrif]] roedd rhaid adeiladu caer ar ynys yng nghanol yr afon Seine. Beth bynnag, daeth y Llychlynwyr (efallai o dan [[Ragnar Lodbrok]]) i Baris i feddiannu ar y dref ar [[28 Mawrth]] [[845]]. Er mwyn eu perswadio nhw i adael, roedd rhaid gasglu pridwerth mawr iawn.
 
Dechreuodd maint ieirll Paris gynyddu oherwydd nad oedd y brenhinoedd [[y Carolingiad|Carolingaidd]] diweddarach ddim yn ddigon cryf. O'r , etholwyd [[Odo, Iarll Paris]] i fod yn frenin Ffrainc er fod [[Siarl III o Frainc|Siarl III]] yn brenin iawn. Ar ôl bu'r Carolingiad olaf yn farw, etholwyd [[Huw Capet, brenin Ffrainc|Huw Capet]], Iarll Paris, i fod yn frenin Ffrainc ([[987]]).
 
[[Delwedd:Big 1330-Paris.jpg|de|bawd|300px|Paris a'r afon Seine]]Yn ystod yr [[11eg ganrif|unfed ganrif ar ddeg]] adeiladwyd rhan newydd y dref ar lan dde yr afon ac yn ystod y [[12fed ganrif|ddeuddegfed ganrif]] a'r [[13eg ganrif|drydedd ganrif ar ddeg]] sydd yn cynnwys teyrnasiad [[Philippe II o Frainc|Philippe II Augustus]] ([[1180]]-[[1223]]) roedd y tref yn tyfu yn braf. Yn ystod yr adeg hon adeiladwyd caer, y [[Louvre]] cyntaf, a nifer o eglwysydd gan gynnwys eglwys gadeiriol Notre-Dame. Daeth nifer o ysgolion ar lan chwith yr afon at ei gilydd i lunio prifysgol y [[Sorbonne]]. Roedd [[Albertus Magnus]] a [[Thomas Aquinas|St. Thomas Aquinas]] ymhlith ei myfyrwyr cynnar. Yn ystod y [[Canol Oesoedd]] roedd Paris yn ddinas fasnach a deallusol bwysig iawn, er i'r [[y Pla|Pla]] ddod i'r dref yn y [[14eg ganrif|bedwaredd ganrif ar ddeg]]. O dan reolaeth [[Louis XIV o Frainc|Louis XIV]], ''Brenin yr Haul'', oedd yn para o [[1643]] i [[1715]] symudwyd y llys brenhinol o Baris i [[Versailles]], tref gyfagos.