Mecsico: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Ynganiad ar wybodlen lle wd using AWB
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr
Llinell 13:
Roedd Mecsico yn gartref i wareiddiad y [[Maya]] rhwng yr [[2g]] a'r [[13g]]. Yn y cyfnod rhwng yr [[8g]] a'r [[12g]] flodeuodd diwylliant y [[Toltec]]. Olynwyd y gwareiddiadau cynnar hyn gan wareiddiad yr [[Aztec]]iaid gyda'u prifddinas yn [[Tenochtitlán]] (safle Dinas Mecsico heddiw).
 
Yn [[1521]] goresgynwyd yr Azteciaid gan [[Hernán Cortés]] a'r Sbaenwyr a daeth Mecsico yn rhan o [[Sbaen Newydd]]. Dechreuodd yr ymgyrch am annibyniaeth ar [[Sbaen]] yn [[1810]]. Erbyn [[1821]] roedd Mecsico yn wlad annibynnol. Roedd yn diriogaeth fwy sylweddol na'r wlad bresennol , yn cynnwys rhannau o dde'r Unol Daleithiau fel [[Texas]] a [[Califfornia]]. Arweinydd pwysicaf y wlad oedd [[Santa Anna]]. Collwyd y rhan fwyaf o'r tir hwnnw i'r [[Unol Daleithiau]] newydd, yn arbennig ar ôl [[Rhyfel Mecsico]] ([[1846]]-[[1848]]).
 
Rheolwyd y wlad gan [[Maximilian, Archddug Awstria]] am gyfnod byr ([[1864]]-[[1867]]), ond cafodd ei ladd yn 1867 a dilynodd cyfnod ansefydlog a arweiniodd at [[Chwyldro Mecsico]] pan ddiorseddwyd [[Porfirio Diaz]] gan [[Francisco Madera]]. Dyma gyfnod [[Zapata]] a [[Pancho Villa]]. Yn [[1917]] datganwyd gweriniaeth Mecsico.