Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cwmni Recordiau Sain"

Lleihawyd o 1 beit ,  2 flynedd yn ôl
B
corr
(→‎top: Erthygl newydd using AWB)
B (corr)
Agorwyd Stiwdio SAIN, gydag offer 24-trac ar ei safle bresennol yn [[1980]]. Ar y pryd, yr oedd hi gyda'r mwyaf modern o'i bath yn [[Ewrop]], ac yr oedd gan y cwmni hefyd Stiwdio Deithiol 8-trac. Symudwyd y swyddfeydd o Ben-y-groes i'r un safle â'r Stiwdio yn [[1982]]. Erbyn hyn yr oedd 15 o bobl yn gweithio'n amser-llawn i'r cwmni.
 
Aeth Huw Jones i fyd y teledu yn fuan ar ôl sefydlu'r stiwdio newydd, a bu'n gyfrifol am sefydlu cwmni adnoddau [[Barcud (cwmni)|Barcud]] a chwmni cynhyrchu [[Tir Glas (cwmni)|Tir Glas]] ar gyfer sianel [[Teledu|deledu]] newydd [[S4C]]. Yn fuan wedyn, wedi 10 mlynedd gynhyrchiol, aeth Hefin Elis yntau i fyd y teledu , er iddo barhau i gynhyrchu recordiau i SAIN.
 
Cymerwyd lle Hefin Elis fel cynhyrchydd staff gan Gareth Hughes Jones, ac yna gan Emyr Rees. Cynhyrchwyr eraill a fu'n gyfrifol am rai o recordiau SAIN yw Tudur Morgan, Les Morrison, Simon Tassano, Donal Lunny, Euros Rhys, Steffan Rees, [[Gareth Glyn]], Geraint Cynan, [[Myfyr Isaac]], Annette Bryn Parri, a'r diweddar Gareth Mitford Williams.
3,377

golygiad