Maelgwn Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr
Llinell 5:
Roedd Maelgwn yn frenin Gwynedd ac yn un o frenhinoedd mwyaf dylanwadol y 6g. Roedd yn fab i [[Cadwallon Lawhir|Cadwallon Lawhir ab Einion Yrth]]. Mae'n un o bum brenin mawr y [[Brythoniaid]] sy'n cael eu beirniadu'n hallt am eu pechodau gan [[Gildas]] (sy'n ei alw yn '''Maglocunus''') yn ''[[De Excidio Britanniae]]''. Disgrifir Maelgwn fel "draig yr ynys"; cyfeiriad at [[Ynys Môn]] efallai. Maelgwn yw'r mwyaf grymus o'r pum brenin yn ôl Gildas:
 
:"... ti , y diweddaf yr ysgrifennaf am dano ond cyntaf a phennaf mewn drygioni; yn fwy na llawer mewn gallu, ac ar yr un pryd mewn malais; yn fwy haelionnus mewn rhoddi; ac mewn pechod yn fwy afradlon; cadarn mewn rhyfel, ond cadarnach i ddinistrio dy enaid ... ".
 
Mae Gildas yn cyhuddo Maelgwn o fod wedi gyrru ei ewythr o'i deyrnas trwy rym "ym mlynyddoedd cyntaf dy ieuenctid". Yna, meddai Gildas, edifarhaodd am ei bechodau a thyngu llw i fynd yn fynach, ond ni pharhaoedd ei edifeirwch a dychwelodd i'w bechodau. Cyhuddir ef o fod wedi llofruddio ei wraig a'i nai er mwyn medru priodi gweddw ei nai.