Rheolaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up using AWB
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr
 
Llinell 11:
Yn ddiweddar mae pobl megis [[Tom Peters]] yn ei lyfr ''Thriving on Chaos'' yn dweud fod yn rhaid i reolwyr fod yn barod i dderbyn newid parhaus yn y gwaith. Mae son am newid i wella pethau yn gallu ymddangos fel beirniadaeth o berfformiad ac arferion y gorffennol. Mae newid hefyd yn cael ei weld fel trafferth ychwanegol oherwydd mae’n golygu newid hen arferion gweithio. Mae newid yn creu ofnau dwfn am allu'r unigolyn i ddysgu [[sgìl|sgiliau]] newydd, ac ofnau am golli'r hyn sydd ganddynt nawr, boed yn statws neu hyd yn oed swydd.
 
Felly rhaid i’r rheolwr wrth egluro’r rheswm am newid geisio tawelu ofnau pobl drwy sicrhau y bydd y newid , os yn bosib, o fudd iddynt. Dylid ceisio dangos fod y newid yn adeiladu ar y gorffennol yn hytrach na rywbeth hollol newydd. Dylid sicrhau fod [[hyfforddiant]] addas ar gael os oes angen sgiliau newydd i gyflawni’r newid.
 
Mae gwrthwynebiad i newid yn gallu bodoli oherwydd: