Geisha: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Geisha a Phuteindra: Manion, replaced: ail ganrif ar bymtheg → 19g, deunawfed ganrif → 18g using AWB
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr
Llinell 42:
Roedd [[puteindra]] yn gyfreithlon yn ystod y cyfnod Edo. Gweithiai puteiniaid megis yr ''oiran'' mewn ardaloedd muriedig a gawsai eu trwyddedi gan y llywodraeth. Yn yr 19g, yn achlysurol byddai'r ''oiran'' yn cyflogi dynion a alwyd yn "geisha" i berfformio yn eu partïon. Felly roedd y geisha cyntaf yn ddynion. Ar ddiwedd y 18g, dechreuodd wragedd a ddawnsiai (a alwyd yn "odoriko") a "geish" benywaidd ddiddanu dynion mewn gwleddau yn yr ardaloedd nas trwyddedir. Cafodd rhai eu hatal am buteindra a'u danfon i'r ardal drwyddedig, lle gwelwyd wahaniaeth amlwg rhwng geisha a phuteiniaid. Cawsai'r geisha eu gwahardd rhag gwerthu'u cyrff. Ar y llaw arall, annogwyd y "machi geisha" a weithiai y tu allan i'r ardal trwyddedig i weithio fel puteiniaid.
 
Ym [[1872]], yn fuan ar ôl Adnewyddiad Meiji, pasiodd y llywodraeth newydd ddeddf a roddai'r hawl i buteiniaid weithio. Roedd geiriad y ddeddfwriaeth newydd yma yn ddadleuol iawn. Credai rhai swyddogion fod geisha a phuteiniaid yn gweithio ar ddau begwn gwahanol o'r un proffesiwn - gwerthu'u cyrff - ac felly y dylid galw pob putain yn "geisha". Yn y diwedd fodd bynnag, penderfynodd y llywodraeth i gadw'r gwahaniaeth rhwng y ddau grŵp , gan ddadlau fod "geisha" yn fwy diwylliedig ac na ddylent gael eu pardduo gyda'r cysylltiad i buteiniaid.
 
Yn ogystal â hyn, galwyd y "geisha" a weithiai mewn trefi [[onsen]] yn ''geisha onsen''. Mae gan y "geisha onsen" enw gwael o ganlyniad i'r nifer o buteiniaid mewn trefi bychain a alwodd eu hunain yn "geisha", yn ogystal a'r dawnsiau fel "Shallow River" (lle byddai'r dawnswyr yn codi eu sgertiau'n uwch ac yn uwch.) Ar y llaw arall, roedd y "geisha onsen" gwirioneddol yn gerddorion ac yn ddawnswyr profiadol a chymwys. Fodd bynnag, yn hunangofiant Sayo Masuda, "geisha onsen" a weithiodd yn Nhalaith Nagano yn ystod y 1930au, roedd pwysau dychrynllyd ar y gwragedd yma i werthu'u cyrff i'w cwsmeriaid.