Bennett Arron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Erthygl newydd using AWB
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr
Llinell 10:
 
== Gwaith ==
Mae wedi ysgrifennu a serennu yn y cyfresi Radio i'r BBC ''Bennett Arron is JeWelsh'' a ''Bennett Arron Worries About ...'', cafodd y ddwy sioe eu henwebu am y Wobr Cyfryngau Celtaidd. Cyflwynodd rhaglen dogfen ar gyfer teledu'r BBC ''The Kosher Comedian'' lle'r oedd yn olrhain gwreiddiau ei deulu o [[Lithwania]] i Dde Cymru ac yn darganfod y rheswm dros ddirywiad presenoldeb Iddewon yng Nghymru<ref name=":0" />. Yn 2007, ysgrifennodd, cyfarwyddodd a chyflwynodd y rhaglen ddogfen ''How Not to Lose Your Identity'' ar gyfer [[Channel 4]] a oedd yn seiliedig ar ei brofiad ei hun o dwyll hunaniaeth.<ref>{{Cite web|url=https://www.smh.com.au/technology/theft-in-the-internet-age-losing-your-identity-is-no-joke-20110517-1erey.html|title=Theft in the internet age: losing your identity is no joke|date=18 Mai, 2011|access-date=16 Chwefror 2019|website=The Sydney Morning Herald|last=Quinn|first=Karl|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> Yn y rhaglen, profodd pa mor hawdd yw hi i gyflawni'r trosedd trwy chwilota trwy finiau sbwriel, a pherswadio pobl i rannu gwybodaeth gyfrinachol yn ddiarwybod iddynt. Bu hyd yn oed yn cynnal stondin mewn canolfan siopa, oedd yn honni gwerthu yswiriant dwyn hunaniaeth, ond mewn gwirionedd roedd yn sgamio pobl i ddatgelu eu holl wybodaeth bersonol. Llwyddodd i ddwyn hunaniaeth yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd , Charles Clarke, ac fe'i harestiwyd wedyn. Ysgrifennodd Bennett gofnod o'i brofiad ''Heard the One About Identity Theft?''.
 
Ysgrifennodd Bennett Nofel Comedi Rhamantaidd, ''The Girl From The Discotheque'',<ref>{{Cite web|url=https://www.goodreads.com/book/show/24702030-the-girl-from-the-discotheque|title=THE GIRL FROM THE DISCOTHEQUE by Bennett Arron|date=|access-date=16 Chwefror 2019|website=Good Reads|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> gan dderbyn ymateb rhagorol gan y beirniaid. Dywedodd gan Ricky Gervais ei fod "Yn ddoniol o'i gychwyn i'w terfyn" a dywedodd Tony Parsons ei fod yn "Llyfr teimladwy, doniol, sy'n son am yr hyn y mae'r galon ei eisiau - waeth pa mor afresymol. Mae'n rhamant a chomedi gyda chalon wedi clwyfo".