Iwan Llwyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Ganed Iwan Llwyd yng Ngharno, Powys cyn symyd i [[Tal-y-bont (Conwy)|Dal-y-bont]], [[Dyffryn Conwy]] ac yna i [[Bangor|Fangor]] yn 10 oed. Mynychodd [[Ysgol Gynradd Tal-y-bont]], [[Conwy]]; [[Ysgol Gymraeg Sant Paul]], Bangor ac [[Ysgol Friars, Bangor]] cyn astudio yng [[Prifysgol Aberystwyth|Ngholeg Prifysgol Cymru]], [[Aberystwyth]]. Ar ôl iddo raddio gydag MA mewn barddoniaeth [[Canol Oesoedd|ganol oesol]], dechreuodd weithio i gwmni cysylltiadau cyhoeddus cyn mynd yn hunan-gyflogedig.<ref>[http://www.wai.org.uk/index.cfm?UUID=4D93BE72-65BF-7E43-31B1CFD0B129A93A&language=en Gwefan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru]. Adalwyd ar 30-05-2010</ref>
 
Daeth yn enwog fel bardd wedi iddo ennill [[Coron yr Eisteddfod Genedlaethol|y Goron]] yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cwm Rhymni 1990|Eisteddfod Genedlaethol 1990]]<ref>{{Cite web|url=https://golwg360.cymru/archif/25031-colli-iwan-llwyd|title=Colli Iwan Llwyd|date=2010-05-28|access-date=|website=Golwg 360|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>, ar y testun ''Gwreichion.'' Cafodd ei lyfr, ''[[Be ’Di'Di Blwyddyn Rhwng Ffrindia?]]: Cerddi 1990-99'', ei restru ar Rhestr Hir [[Llyfr y Flwyddyn]], [[2004]].
 
Yn gerddor yn ogystal â bardd, fu'n canu'r [[gitâr fas]] gyda [[Geraint Lövgreen a'r Enw Da]], yn ogystal â gyda [[Steve Eaves]]. Roedd yn aelod o'r grŵp [[Doctor (band)|Doctor]] ar ddechrau'r 1980au.<ref>{{Cite web|url=https://issuu.com/y_selar/docs/yselar_mehefin15/10|title=Beirdd mewn bandiau|date=2015-06-01|access-date=2019-09-30|website=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=|page=10}}</ref>