Y Gop: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manylu
80 m
Llinell 2:
Bryn a safle archaeolegol yn [[Sir y Fflint]] yw '''Y Gop'''. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin y sir fymryn i'r gogledd o bentref [[Trelawnyd]] a gellir ei ystyried fel un o gopaon gogleddol [[Bryniau Clwyd]], er ei fod fymryn i'r dwyrain o'r brif gadwyn. Uchder: 250 metr.
 
Mae gan Y Gop le arbennig yn hanes archaeoleg a [[cynhanes Cymru|chynhanes Cymru]]. Coronir ei gopa â [[crug crwn|chrug crwn]] anferth, un o'r rhai mwyaf yng Nghymru a Phrydain. Uchder y garnedd yw tua 12 medr ac mae ganddi lled o tua 10080 medr.<ref>[http://www.coflein.gov.uk/cy/safle/306725/manylion/GOP+CAIRN%3B+Y+GOP%3B+GOP+HILL+CAIRN/ Gwefan Coflein]</ref> Credir ei bod yn dyddio i [[Oes yr Efydd]].<ref>Christopher Houlder, ''Wales: an archaeological guide'' (Faber, 1978).</ref> neu [[Oes Newydd y Cerrig]]. Blociau mawr o galchfaen a ddefnyddwyd yn bennaf i godi'r garnedd, gydag olion mur o gerrig i'w cryfhau.<ref>Helen Burnham, ''Clwyd and Powys''. A Guide to Ancient and Historical Wales (HMSO, 1995), tt. 11-12.</ref>
 
Ceir yn ogystal [[ogof]]âu ar lethrau'r Gop lle darganfuwyd olion cynhanesyddol yn cynnwys esgyrn [[hyaena]] a gweddillion pobl a gladdwyd yno yn y cyfnod [[Neolithig]], a hynny yn ddefodol, fe ymddengys. Damcanieithir fod yr ogofau a'r garnedd yn rhan o'r un safle defodol ac felly bod y garnedd yn perthyn i'r Neolithig yn hytrach nag Oes yr Efydd fel a dybwyd yn y gorffennol.<ref>''Clwyd and Powys'', tt. 11-12.</ref>