Tlodi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up using AWB |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad Gweladwy Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Jakarta slumlife65.JPG|bawd|dde|250px|Bachgen sy'n byw mewn [[slwm]] [[sbwriel]] yn [[Jakarta]], [[Indonesia]] yn dangos be mae o wedi ffeindio]]
'''[[Todi-wybedog penddu|Tlodi]]''' yw'r cyflwr pan fo unigolyn neu gymuned yn cael ei amddifadu o'r hyn a ystyrir yn hanfodol er mwyn mwynhau y safon byw isaf sy'n dderbyniol i gymdeithas a'r bodlonrwydd sy'n dod gyda hynny. Mae diffinio 'tlodi' yn anodd, ac yn amrywio o wlad i wlad, ond cytunir yn gyffredinol fod hanfodion bywyd yn cynnwys adnoddau elfennol fel cael digonedd o [[bwyd|fwyd]], [[dŵr]] sy'n ddiogel i'w yfed, a chysgod rhag yr elfennau; at hyn gellid ychwanegu adnoddau cymdeithasol fel mynediad at [[gwybodaeth|wybodaeth]], [[addysg]], [[gofal iechyd]], statws cymdeithasol, llais mewn [[gwleidyddiaeth]], a'r cyfle i gyfathrebu'n ystyrlon â phobl eraill a chwarae rhan mewn [[cymdeithas]].
Gellid diffinio 'tlodi' mewn termau cymhariaethol yn ogystal, e.e. gwahaniaeth mewn [[incwm]] neu [[cyfoeth|gyfoeth]], ac mae cyflwr tlodi yn cael ei gysylltu â phethau fel diffyg dosraniad adnoddau a grym. Yn aml mae gwahanol [[gwladwriaeth|wladwriaethau]] a chyrff yn defnyddio eu mynegeion penodol eu hunain i ddiffinio'r ffin rhwng tlodi a safon byw derbyniol.
|