Gwent: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Siswrn (sgwrs | cyfraniadau)
tiriogaeth
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:CymruGwentTraddod.png|bawd|de|200px|Map o Went]]
:''Gweler hefyd [[Teyrnas Gwent]]''
 
Mae '''Gwent''' yn sir seremonïol yn nwyrain [[Cymru]]. Roedd yn un o [[Teyrnasoedd Cymru|hen deyrnasoedd]] y [[Cymry]], a bu'n sir weinyddol rhwng [[1974]] a [[1996]]. Mae hanes hir o ddefnyddio'r enw am y rhan hon o Gymru ar ochr orllewinol rhan fwyaf deheuol [[Clawdd Offa|Glawdd Offa]]. Mae tiriogaeth Gwent yn debyg i diriogaeth sir draddodiadol [[Sir Fynwy]], a grewyd adeg [[Y Ddeddf Uno]], ac am flynyddoedd byddai cyfeirio at 'Gymru a Sir Fynwy' (''Wales & Monmouthshire''). Yr unig wahanieth rhyngddi a siroedd eraill Cymru oedd ei bod yn rhan o gylchdaith llysoedd [[Rhydychen]] yn hytrach na Chymru.
 
Edrychir ar yr ardal heddiw fel ardal Seisnig ond y gwir yw yr oedd yn ardal Gymreig iawn tan ddechrau'r chwyldro diwydiannol.