Valériane Leblond: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
B dileu pwt oherwydd anghywirdeb
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
Gwobr Tir na n-Og
Llinell 1:
Arlunydd [[Ffrainc|Ffrengig]] sy'n byw yng [[Cymru|Nghymru]] yw '''Valériane Leblond'''. Mae'n paentio ar bren yn bennaf, gan greu tirluniau, bythynod a delweddau o wragedd wrth eu gwaith tŷ.<ref name="golwg">{{dyf cylch| teitl=Brensiach y bratiau! Ffrances yn paentio byd gwragedd fferm Ceredigion| cyhoeddwr=Golwg| cyfrol=22| rhifyn=8| dyddiad=22 Hydref 2009}}</ref>
 
Yn wreiddiol o [[Angers]], [[Pays de la Loire]], astudiodd Leblond yng ngholeg [[Rennes]], a Phrifysgol [[Nantes]], [[Llydaw]].<ref>[http://www.cllc.org.uk/7988.file.dld Taflen Adnabod Awdur: Elin Meek a Valériane Leblond], Cyngor Llyfrau Cymru, 2019.</ref> Symudodd i Gymru yn 2006, mae'n byw ym mhentref [[Llangwyryfon]] yng [[Ceredigion|Ngheredigion]]. Mae Leblond yn siarad [[Ffrangeg]], [[Cymraeg]] a [[Saesneg]]. Mae hefyd yn gweithio fel cynorthwyydd Ffrangeg yn [[Ysgol Gyfun Penglais]].<ref name="golwg" />
 
Cafodd y llyfr ''Dim Ond Traed Brain'' gan [[Anni Llŷn]], a ddarluniwyd gan Leblond, ei osod ar restr fer [[Gwobr Tir na n-Og]] 2017.<ref>[https://gwanas.wordpress.com/2017/03/28/rhestr-fer-gwobrau-tir-na-n-og-2017/ "Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og"] Bethan Gwanas, 28 Mawrth 2017.</ref>
 
Yn [[2019]] enillodd [[Gwobr Tir na n-Og|Wobr Tir na n-Og]] ar y cyd gydag [[Elin Meek]], am ei gwaith darlunio yn y llyfr ''[[Cymru ar y Map]]'', a gyhoeddwyd gan [[Rily Publications]].<ref>[http://www.books.wales/news/news-detail?diablo.lang=cym&id=13300 "Catherine Fisher a'i nofel The Clockwork Crow yn cipio gwobr llenyddiaeth plant Tir na n-Og"] Cyngor Llyfrau Cymru, 16 Mai 2019.</ref>
 
Mae ychydig o debygrwydd rhwng arddull Leblond ac elfennau o waith [[Lizzie Spikes]].
Llinell 10 ⟶ 14:
==Dolenni allanol==
*[http://www.valeriane-leblond.eu/ Gwefan swyddogol]
*[https://www.bbc.co.uk/programmes/m00027dp Cyfweliad gyda Beti George, BBC Radio Cymru, 31 Ionawr 2019]
*[https://blog.llyfrgell.cymru/carucelf-valeriane-leblond-5/ #CaruCelf – Valériane Leblond, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 14 Chwefror 2018]
 
{{Rheoli awdurdod}}