Gwlff Tiwnis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle}}
 
[[Bae]] mawr agored yn ne'r [[Môr Canoldir]] ar arfordir gogleddol [[Tiwnisia]] yw '''Gwlff Tiwnis'''. Mae'n ymestyn o [[Penrhyn CarthageCarthago|Benrhyn CarthageCarthago]] (''Cap Carthage'': hefyd ''Cap Farina'') yn y gorllewin i bwynt gogleddol [[Cap Bon]] yn y dwyrain, pellter o tua 75 km. Ers dyddiau'r [[Ffenicia]]id a'r [[Rhufeiniaid]] mae wedi bod yn gysgodfa pwysig i longau. Mae'n gorwedd gyferbyn i ynys [[Sisili]] a [[Sardinia]] ac felly o bwys strategol er mwyn rheoli'r llwybr morol rhwng y Môr Canoldir gorllewinol a'r rhan ddwyreiniol, trwy [[Culfor Sisili|Gulfor Sisili]].
 
Yma, yn ôl traddodiad, y glaniodd y frenhines [[Elissa]] (Dido yn ''Eneid'' [[Fferyllt]]) a'i llynges o ffoaduriaid o [[Tyros]] (''Tyre'' - mam-ddinas y CarthageniaidCarthaginiaid yn [[Ffenicia]]) tua 700 CC a sefydlu dinas [[CarthageCarthago]]. Mae'r gwlff wedi bod yn dyst i sawl frwydr fawr ac wedi chwarae rhan bwysig yn hanes yr [[Henfyd]].
 
Ar ei glannau gorllewinol ceir nifer o drefi, gan gynnwys (o'r gogledd i'r de) [[Sidi Bou Saïd]] ar Benrhyn CarthageCarthago, [[CarthageCarthago]] ei hun, [[La Goulette]] ar y fynedfa i [[Llyn Tiwnis]] a dinas [[Tiwnis]] ei hun, [[Rades]], ez-Zahra a [[Hammam Lif]]. Ceir nifer o draethau da sy'n denu trigolion Tiwnis yn yr haf. Mewn cyferbyniaeth mae'r glannau dwyreiniol yn llawer mwy anghysbell gyda nifer o glogwynni a bryniau isel. Ar ôl Hammam Lif yr unig dref o bwys yw [[Korbous]] (tref spa) a [[Sidi Daoud]] (porthladd bysgota).
 
Oddi ar benrhyn gogleddol [[Cap Bon]] ceir dwy ynys ddeniadol, [[Zembra]] a [[Zembretta]], sy'n warchodfeydd natur. Yn dominyddu'r gwlff yn y gorllewin mae mynydd triphyg trawiadol [[Bou Kornine]].
Llinell 14:
Image:La_Goulette_001.JPG|[[La Goulette]], ger Tiwnis
Image:Korbous_ain.jpg|Ymdrochi yn ffynnhonau môr poeth [[Korbous]], Cap Bon
Image:ElHaouria_latomies.jpg|Chwarel [[Carthage]]naiddCarthaginaidd [[El-Haouaria]], Cap Bon
</gallery>