Din Lligwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cyf
a
Llinell 2:
[[Delwedd:Dinll2.jpg|bawd|de|250px]]
[[Delwedd:Dinll3.jpg|bawd|250px]]
Mae '''Din Lligwy''' (weithiau '''Din Llugwy''') yn olion nifer o dai ac adeiladau eraill yn dyddio o gyfnod y [[Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeiniaid]] ar arfordir dwyreinol [[Ynys Môn]] yn agos i bentref [[Moelfre]]; {{gbmapping|SH492856SH497861}}.
 
Saif Din Lligwy ar fryn isel heb fod ymhell o'r môr. Tu mewn i fur amgylchynol mae sylfeini nifer o adeiladau, rhai ohonynt yn grwn a rhai yn hirsgwar. Mae olion gweithio [[haearn]] yn rhai ohonynt. Credir fod yr adeiladau crwn yn dai a'r rhai hirsgwar yn weithdai. Er ei fod yn is nag yr oedd yn wreiddiol, mae'r mur allanol mewn cyflwr da.
 
Cofrestrwyd yr olion hyn gan [[Cadw]] a chânt eu hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: AN104AN023.<ref>[http://www.whatdotheyknow.com/request/15714/response/38315/attach/html/2/SAMs%20by%20UA.xls.html Cofrestr Cadw.]</ref> Bu cloddio [[Archaeoleg|archaeolegol]] yma, a gwnaed nifer o ddarganfyddiadau. Roedd rhai o'r rhain yn awgrymu fod y lle yn cael ei ddefnyddio yn y bedwaredd ganrif O.C., ond roedd hefyd dystiolaeth o adeiladau ar y safle cyn y rhai a welir, efallai yn dyddio i [[Oes yr Haearn]]. Cafwyd hyd i far o arian, crochenwaith wedi ei fewnforio ac eitemau gwydr.
 
Y farn gyffredinol o ystyried y darganfyddiadau hyn a'r tai crwn oedd fod Din Llugwy yn perthyn i uchelwr neu bennaeth brodorol oedd wedi ei ddylanwadu i ryw raddau gan ddiwylliant Rhufain ond yn parhau i gadw at bensaerniaeth draddodiadol yn bennaf. Mae'r safle yng ngofal [[Cadw]]. Gellir gweld nifer o hynafiaethau diddorol eraill gerllaw, [[Capel Llugwy]] o'r [[12fed ganrif]] a siambr gladdu [[Llugwy (siambr gladdu)|Llugwy]] o'r cyfnod [[Neolithig]].