Brwydr Maes Maen Cymro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newydd
 
ehangu
Llinell 1:
Brwydr fawr rhwng lluoedd teyrnasoedd [[Teyrnas Powys|Powys]] a [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] oedd '''Brwydr Maes Maen Cymro''' a ymladdwyd yn [[1118]] ger [[Rhewl]], ger [[Rhuthun]], [[Sir Ddinbych]]. Achos y frwydr oedd yr ymgiprys rhwng y ddwy deyrnas dros reolaeth ar [[Y Berfeddwlad]].
 
Roedd Gwynedd yn ceisio ehangu i gyfeiriad y dwyrain trwy gipio [[Rhos]] a [[Rhufoniog]]. Rheolwyd y ddau gantref hynny gan yr Arglwydd Hywel ab Ithel, un o ddeiliaid [[Maredudd ap Bleddyn]], brenin Powys. Yn 1118, gyda llu Maredudd, ymosodd Hywel ar arglwyddi [[Dyffryn Clwyd]]. Enillodd lluoedd Hywel a Maredudd y dydd ond lladdwyd Hywel ei hun ar faes y gad.<ref name="Williams">A. H. Williams, ''An Introduction to the History of Wales'', cyfrol II (Gwasg Prifysgol Cymru, d.d.), tud. 9.</ref>
 
Bu farw Hywel heb etifedd i'w olynu. Ymddengys nad oedd Maredudd ap Bleddyn yn ddigon cryf i gymryd meddiant ar arglwyddiaeth Hywel. Felly cipwyd y deyrnas fechan gan feibion [[Gruffudd ap Cynan]] a'i gwneud yn rhan o deyrnas Ngwynedd. Roedd hynny'n gam pwysig yn hanes Gwynedd am ei fod yn sicrhau terfynau dwyreiniol y deyrnas ac yn galluogi'r brenin i ehangu i gyfeiriad y de, unwaith eto ar draul Powys.<ref name="Williams"/>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:1118]]
[[Categori:Brwydrau Cymru|Maes Maen Cymro]]
[[Categori:Hanes GwyneddSir Ddinbych]]
[[Categori:HanesTeyrnas PowysGwynedd]]
[[Categori:Teyrnas Powys]]
 
{{eginyn hanes Cymru}}