Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Brwydr Maes Maen Cymro"

Ychwanegwyd 5 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(ehangu)
B
Roedd Gwynedd yn ceisio ehangu i gyfeiriad y dwyrain trwy gipio [[Rhos]] a [[Rhufoniog]]. Rheolwyd y ddau gantref hynny gan yr Arglwydd Hywel ab Ithel, un o ddeiliaid [[Maredudd ap Bleddyn]], brenin Powys. Yn 1118, gyda llu Maredudd, ymosodd Hywel ar arglwyddi [[Dyffryn Clwyd]]. Enillodd lluoedd Hywel a Maredudd y dydd ond lladdwyd Hywel ei hun ar faes y gad.<ref name="Williams">A. H. Williams, ''An Introduction to the History of Wales'', cyfrol II (Gwasg Prifysgol Cymru, d.d.), tud. 9.</ref>
 
Bu farw Hywel heb etifedd i'w olynu. Ymddengys nad oedd Maredudd ap Bleddyn yn ddigon cryf i gymryd meddiant ar arglwyddiaeth Hywel. Felly cipwyd y deyrnas fechan gan feibion [[Gruffudd ap Cynan]] a'i gwneud yn rhan o deyrnas NgwyneddGwynedd. Roedd hynny'n gam pwysig yn hanes Gwynedd am ei fod yn sicrhau terfynau dwyreiniol y deyrnas honno ac yn galluogi'r brenin i ehangu i gyfeiriad y de, unwaith eto ar draul Powys.<ref name="Williams"/>
 
==Cyfeiriadau==