Niki Pilkington: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

darlunydd a chyfarwyddwr creadigol Cymreig
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Darlunydd a chyfarwyddwr creadigol Cymreig yw '''Niki Pilkington'''.<ref name="exceptionalalien">[http://exceptionalalien.com/niki-...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:24, 11 Hydref 2019

Darlunydd a chyfarwyddwr creadigol Cymreig yw Niki Pilkington.[1] Yn wreiddiol o Nefyn, Pen Llŷn[2] mae'n byw byw yn Los Angeles, UDA, a bu gynt yn byw ym Mharis, ac yn ddiweddarach yn Efrog Newydd.[1]

Gyrfa

Dywed ei bod wastad wedi ysu am fod yn ddarlunydd ers yn blentyn, ac oherwydd ei ewythr, syn' ddarlunydd llwyddianus, yn byw yn Reykjavik, Gwlad yr Iâ, roedd gan Pilkington ffydd, ei fod yn bosibl dilyn gyrfa yn gwneud beth oedd yn caru'i wneud. Enillodd radd dosbarth cyntaf mewn Hyrwyddo a Darlunio Ffasiwn o Brifysgol Ravensbourne, Llundain.[3]

Arddull adnabyddus iawn sydd gan Pilkington, darluniau du a gwyn yn bennaf, yn defnyddio pensiliau, gyda ychwanegiad o flociau o liwiau neon a phatrymau.[4] Mae yn aml yn ymgorfori dyfyniadau, yn Saesneg yn bennaf ond hefyd yn y Gymraeg.[4][3] Caiff ei hysbrydoli yn bennaf gan ffasiwn, cerddoriaeth a byd natur,[1] ac mae elfen chwareus iawn i'w gwaith.[3] Mae wedi cynhyrchu gwaith ar ran brandiau byd enwog gan gynnwys Topshop, American Express ac Elle Magazine.[4] Daeth i'r blaen fel darlunydd ffasiwn, ond mae erbyn hyn yn dylunio ystod eang o gynnyrch gan gynnwys clawr llyfr, Madi gan Dewi Wyn Williams, gwasg Atebol.[5] Mae'n gyfarwyddwr creadigol y busnes Cymreig, Tanya Whitebits, sy'n cynhyrchu lliw haul ffug.[6]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol



   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.