Morgan Owen (bardd a llenor): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
Lansiwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi, pamffled dan y teitl ''moroedd/dŵr'', yng [[Gŵyl Arall|Ngŵyl Arall]], Caernarfon, fis Gorffennaf 2019. Cerddi am foroedd a dyfrffyrdd yw cynnwys y pamffled; ceir yn y casgliad fyfyrio ynghylch y ffin anelwig rhwng afonydd a'r môr, a'r modd y gall aberoedd fod yn gyfrwng i brofiadau dyn. Cyhoeddwyd y pamffled gan [[Cyhoeddiadau'r Stamp|Gyhoeddiadau'r Stamp]], ac mae'n cynnwys delweddau gan yr artist [[Timna Cox]] mewn ymateb i rai o'r cerddi.<ref>{{Cite web|title=Cerdd a chyhoeddiad: moroedd/dŵr - Morgan Owen|url=https://www.ystamp.cymru/single-post/2019/07/03/Cerdd-a-chyhoeddiad-moroeddd%C5%B5r---Morgan-Owen|website=Cylchgrawn y Stamp|access-date=2019-07-15|}}</ref>
 
Ym mis Awst, 2019, cyhoeddwyd taw ef oedd ennillydd [[Her Gyfieithu]] [[Cyfnewidfa Lên Cymru]]/[[PEN Cymru]] yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Conwy 2019]].<ref>{{Cite web|title=Her Gyfieithu 2019: Cyhoeddi’r Enillydd – Wales PEN Cymru|url=http://walespencymru.org/her-gyfieithu-2019-cyhoeddir-enillydd/|access-date=2019-08-09|}}</ref> Ym mis Medi 2019, enillodd gadair Eisteddfod [[Cwmystwyth]], gyda cherdd yn y wers rydd ar y testun 'Bro'; fis yn ddiweddarach, enillodd gadair Eisteddod Bancffosfelen a Chrwbin.
 
== Rhyddiaith ==