Abades: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
chwaneg Tagiau: Golygiad cod 2017 |
|||
Llinell 1:
Pennaeth ar gymuned o [[lleian|leianod]] sy'n byw mewn [[abaty]] a'i swydd yn cyfateb i swydd [[abad]] yw '''abades'''.<ref>{{dyf GPC |gair=abades |dyddiadcyrchiad=17 Hydref 2019 }}</ref> Fel teitl mae'r term yn tueddu i gael ei gyfyngu i'r [[Gristnogaeth]], ond gelwir penaethiaid
Yn [[yr Eglwys Geltaidd]], penaethes ar gyd-gymuned o fynachod a lleianod oedd abades. Daethpwyd â'r arfer hon i'r cyfandir gan genadaethau Celtaidd i [[Ffrainc]] a [[Sbaen]], ac hyd yn oed i [[Rhufain|Rufain]]. Yn 1115 cyflwynodd Robert d'Arbrissel, sefydlwr Abaty [[Fontevraud-l'Abbaye|Fontevraud]], holl weinyddiaeth yr urdd honno i abades.
Yn sgil [[y Diwygiad Protestannaidd]] yn [[yr Almaen]], goroesai'r teitl abades ({{iaith-de|Aebtissin}}) i ddynodi'r penaethiaid ar abatai sydd wedi cadw hen arferion y ''Stifte'', hynny yw yr eglwysi colegaidd sydd yn rhoi llety i ferched dibriod, fel arfer o dras fonheddig, ac yn darparu incwm iddynt. Yn hanesyddol rhoddir y swydd honno i dywysoges o un o'r teuluoedd brenhinol Almaenig.
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Cristnogaeth]]
|