Y Cylch Sialc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Drama Gymraeg ydy '''''Y Cylch Sialc'''''. Cafodd Mererid Hopwood ei chomisiynnu gan Theatr Genedlaethol Cymru i gyfieithu'r ddrama Almaeneg '...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 19:45, 18 Hydref 2019
Drama Gymraeg ydy Y Cylch Sialc. Cafodd Mererid Hopwood ei chomisiynnu gan Theatr Genedlaethol Cymru i gyfieithu'r ddrama Almaeneg Der kaukasische Kreidekreis gan Bertolt Brecht.
Cynhyrchiad 2019
Cafodd y cyfieithiad hwn ei lwyfanu am y tro cyntaf yn 2019, a'i chyfarwyddo gan Sarah Bickerton. Y cast oedd Rebecca Hayes, Geraint Rhys Edwards, Siôn Eifion, Sara Harris-Davies, Noel James, Pınar Öğün, Glyn Pritchard, Mali Ann Rees a Gwenno Saunders.[1] Gwenno oedd yn chwarae rhan 'Y Cyfarwyddwr', sef cymeriad sy'n tywys y gynulleidfa drwy gyfuniad o draethu, sylwebu a chanu caneuon, a hi sydd hefyd wedi cyfansoddi'r caneuon a'r gerddoriaeth gefndir.[2]
Cyfieithiad blaenorol o Y Cylch Sialc
Cafodd cyfieithiad arall o'r ddrama ei llwyfannu gan Cwmni Theatr Gwynedd, gyda Siân Wheldon a Llion Williams yn actio ynddi.[3][4]
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan Theatr Genedlaethol Cymru
- ↑ Brecht yn Gymraeg, Menna Baines. Barn Hydref 2019
- ↑ Cadw'r freuddwyd yn fyw, Menna Baines. Barn Gorffennaf/Awst 1998
- ↑ Remembering Theatr Gwynedd Copi archif o wefan BBC North West Wales, diweddarwyd diwethaf 25 Medi 2008